Mwy o Newyddion
Beca, seren Bake Off, yn rhannu cyfrinachau coginio ei theulu mewn gŵyl fwyd
Bydd pobydd teledu poblogaidd yn datgelu rhai o gynghorion amhrisiadwy ei dwy nain Gymreig wrth rannu ei chyfrinachau yn yr ŵyl fwyd.
Bydd Beca Lyne-Perkis, a gyrhaeddodd rownd cyn derfynol y sioe teledu lwyddiannus Great British Bake Off yn 2013, yn un o’r sêr Hamper Llangollen eleni.
Bydd yr ŵyl ddeuddydd yn denu miloedd o folgwn i'r mecca twristaidd byd enwog yn Sir Ddinbych dros benwythnos 15 a 16 Hydref.
Mae Beca, y mae ei sioe ei hunan, Becws ar S4C yn cael ei noddi gan Village Bakery o Wrecsam, yn dysgu mewn ysgol goginio yn Sir Ddinbych ac mae hefyd yn gogydd ac yn ymgynghorydd i’r farchnad fwyd enwog Borough yn Llundain.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Beca’n dweud mai wrth dreulio amser gwerthfawr gyda’i dwy nain y dysgodd lawer o’r hyn mae’n ei wybod am fwyd a choginio.
Mae'n cofio “erbyn i mi gyrraedd 16 mlwydd oedd roedd y ddwy wedi dysgu llawer iawn i mi am goginio,"
“Mae Betty Murphy, mam fy nhad, Nan ydyn yn ei galw, yn byw yng Nghaerdydd, hi ddysgodd fi sut i wneud pethau fel teisennau garw, leicecs a chyffeithiau.
“Un tro rwy’n ei gofio’n dda iawn yw pan ofynnodd i mi hoffwn i wneud rhywbeth arbennig i groesawu fy mam yn ôl gartref ar ôl iddi fod yn gweithio i ffwrdd.
“Roedd hi am wneud teisennau pili pala ond roeddwn i eisiau gwneud profiteroles. Pan ddywedodd Nan nad oedd hi’n gwybod sut i’w gwneud ond y bydden ni’n dysgu gyda'n gilydd, dyna wnaethon ni.
“Roedd fy nain ar ochr fy mam, Mam-gu oeddwn yn ei galw hi, sef enw’r de am nain, yn wraig fferm yn Sir Gaerfyrddin ond mae hi wedi’n gadael erbyn hyn.
“Ganddi hi y dysgais i sut i grasu bara a bara brith a gwneud bwyd Cymreig traddodiadol fel cawl, math o lobsgóws.
“Yn fy nghyfres gyntaf o Becws ar S4C, roeddwn i’n canolbwyntio ar y dylanwadau cynnar arna i ac ar fy magwraeth ac roeddwn i’n dangos llawer o'r pethau a ddysgais oddi wrth Nan a Mam-gu.
“Wrth i fy ngyrfa ddatblygu, dydw i ddim yn defnyddio cymaint o’u ryseitiau ond fe fyddai’n cofio am Mam-gu bob tro y bydda i’n pobi ac fe fydda i’n ei chlywed hi’n dweud pa gynhwysion ddylwn i eu defnyddio."
Mae Beca’n awyddus i’w dwy ferch, Mari sy’n bedair oed ac Alys sy’n ddwy, ddysgu rhai o gyfrinachau coginio'r teulu fel rhan o’r addysg Gymreig y mae hi eisiau iddyn nhw ei gael.
Yn y cyfamser, mae’i sgiliau coginio wedi ehangu i gofleidio bwyd y byd. Mae’n cael syniadau newydd o Farchnad Borough Road yn Llundain lle mae’n gwneud gwaith cyhoeddusrwydd ac yn ysgrifennu blog yn rheolaidd.
Meddai: “Mae ymddangos ar Bake Off wedi newid fy mywyd yn llwyr. Mae wedi rhoi fy ngyrfa i mi, a’r gamp, nawr, yw trenfu popeth o gwmpas fy mywyd teuluol.
“Rwy’n paratoi ar gyfer trydedd gyfres ar S4C, Parti Bwyd Beca, a fydd yn cael ei darlledu yn yr hydref, tua’r un adeg ag y byddaf yn Hamper Llangollen, gŵyl rwy'n wirioneddol edrych ymlaen ati.
“Rwyf wrth fy modd yn dod i ogledd Cymru, mae’n fy atgoffa o rai o’r swyddi haf a gefais i yn y Bala pan oeddwn yn ifanc. Rydym ni’n ffilmio llawer yno hefyd.
“Rwy’n adnabod Llangollen yn eithaf da; fy nhad, Gerald Murphy, sy’n dylunio setiau’r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol ers blynyddoedd ac roeddwn i’n mynd yno’n aml pan oeddwn i’n ifanc.
“Hwn yw’r tro cyntaf i mi ymddangos yn Hamper Llangollen, wn i ddim yn iawn eto beth yn union fyddaf i’n ei wneud yn fy arddangosfeydd ond mi fyddaf, yn bendant, yn defnyddio cynnyrch lleol, ffres.
“Dyma un o’r pethau pwysig ddysgodd Mamgu i mi, maen nhw’n blasu 10 waith cystal ag unrhyw beth tramor.
“Mae pobl erbyn hyn eisiau gwybod beth yn union sydd yn eu bwyd ac o ble mae’n dod. Mae cynnyrch lleol yn well i chi ac rydych chi’n gwybod yn union o ble mae’n dod.”
Rhingyll Meddygol yn y Fyddin yw ei gŵr, Matthew. Y cysylltiad hwn, a’i chariad at ganu a gafodd ei fireinio drwy ennill gradd mewn Cerddoriaeth o Brifysgol Caerdydd, arweiniodd Beca i ymuno ag un o’r Corau Gwragedd Milwrol enwog.
Roedd yn canu ar y dechrau gyda chôr Aldershot pan oedd Matthew yn gweithio yno ond ar ôl dod yn ôl i Gaerdydd, ei nod yw sefydlu grŵp newydd ar gyfer de Cymru.
“Rwyf hefyd yn cadw mewn cysylltiad â’m cyd gystadleuwyr o Bake Off, yn enwedig Kimberley Wilson a Glenn Cosby. Rwy’n eu cyfarfod pan fyddaf yn Llundain,” meddai.
Meddai cadeirydd Hamper Llangollen, Colin Loughlin: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Beca i’r ŵyl am y tro cyntaf.
“Bydd yr ŵyl eleni’n un arbennig iawn.
“Mae’r ŵyl fwyd yn ffenestr siop berffaith i’r cwmnïoedd sy’n asgwrn cefn ein heconomi wledig.
“Mae lleoliad y Pafiliwn yn eithriadol o ysblennydd –allai ddim dychmygu fod unrhyw ŵyl fwyd yng ngwledydd Prydain mewn lle harddach.”
Am ragor o fanylion am Hamper Llangollen 2016 ewch i www.llangollenfoodfestival.com