Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Hydref 2016

Galw ar drigolion Bangor i fynychu cyfarfod i drafod 366 o gartrefi newydd

Anogir trigolion Bangor i fynychu trafodaeth gyhoeddus er mwyn datgan eu barn ar y cynllun arfaethedig i ddatblygu 366 o gartrefi ym Mhen y Ffridd.

Mae Plaid Cymru Bangor yn galw ar drigolion sydd â diddordeb yn y cynnig i adeiladu cartrefi newydd ym Mhen y Ffridd i fynychu trafodaeth agored nos Iau, 20 Hydref yng Nghapel Berea Newydd, Bangor am 6.30pm.

"Mae hwn yn gyfarfod cyhoeddus, ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y cynllun i ddod i rannu eu barn gyda mi fel Cynghorydd Sir yr ardal, lle caf gefnogaeth gan gynghorwyr eraill Bangor a’r ddau aelod etholedig arall, yr Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol dros Arfon," meddai'r Cynghorydd Sir sy’n cynrychioli trigolion Ward Dewi, Gareth Roberts.

"Does dim amheuaeth y bydd datblygiad o'r maint yma’n cael effaith enfawr ar fywydau trigolion o fewn Ward Dewi, a dwi’n pryderu nad yw'r seilwaith yn ei le i ni allu delio â'r cynnydd yn y boblogaeth ddaw yn sgil cymeradwyo datblygiad o'r maint hwn yn yr ardal.

"Mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn gwegian, mae ein hysgolion yn llawn, mae sicrhau apwyntiadau gyda meddygfeydd yn anodd, mae nifer y cerbydau sydd eisoes ar ein lonydd yn broblemus, a thydw i ddim wedi fy argyhoeddi bod nifer y tai a gynigir o fewn y cynllun yn gymesur â’r ardal," esbonia’r Cynghorydd Roberts.

"Dyna'r rheswm y mae Tîm Plaid Cymru Bangor yn awyddus i glywed barn pobl leol. Beth yw consensws y farn yn lleol? Sut gallwn ni, fel cymuned, yrru unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r  datblygiad yn ei flaen?”

Mae trefnwyr y cyfarfod anffurfiol yng Nghapel Berea Newydd yn awyddus i wahodd pobl o bob lliwiau gwleidyddol i fod yn bresennol, lle bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael.

Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon: "Does dim amheuaeth bod angen tai newydd ar gyfer pobl leol, ond mae angen iddynt fod yn gartrefi o’r math cywir yn y lleoliad cywir ac ar raddfa sy’n dderbyniol i’r ardal leol. Yn anffodus, dwi’n bryderus bod y datblygiad hwn yn llawer rhy fawr i'r ardal.

"Mae ysgolion lleol eisoes yn orlawn ac mae problemau traffig dybryd yn yr ardal. Dewch draw i'r cyfarfod i leisio eich barn - byddwn yn falch o glywed dwy ochr y ddadl. Mae croeso cynnes i bawb."

Llun: Gareth Roberts

Rhannu |