Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Gorffennaf 2011

Cyfarwyddwr cyswllt newydd

Mae Sherman Cymru wedi cyhoeddi fod Mared Swain wedi ei phenodi i ymgymryd â swydd y Cyfarwyddwr Cyswllt. Bydd Mared yn arwain y gwaith datblygu a chomisiynu yn y Gymraeg i Sherman Cymru.

Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2003, mae Mared wedi gweithio’n eang fel actores yn y theatr, ar y teledu ac ar y radio. Mae wedi ysgrifennu dwy ffilm fer, bu’n rhan o dîm ysgrifennu Dominos i Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae wedi bod yn aelod o dîm storïo ar y gyfres Caerdydd gyda Fiction Factory i S4C.

Ers 2007 mae wedi bod yn cyfarwyddo ar gyfer y theatr, ac wedi bod yn un o gyd-gynhyrchwyr Cwmni Theatr Dirty Protest, cwmni ysgrifennu newydd o Gaerdydd sy’n llwyfannu dramâu byrion.

Mae Mared wedi cyfarwyddo dramâu newydd sydd wedi eu perfformio mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys y Roundhouse yn Camden, Gŵyl Latitude, Canolfan Mileniwm Cymru, Sherman Cymru a’r Galeri yng Nghaernarfon, yn ogystal ag mewn nifer o leoliadau ymylol o amgylch Caerdydd.

Ers ei sefydlu mae Dirty Protest wedi cynhyrchu mwy na 80 o ddramâu byrion newydd gan fwy na 70 o ysgrifenwyr, gan gynnwys gwaith gan Chloe Moss, Lucy Kirkwood, a Rebecca Lenkiewicz, Jack Thorne, Ed Hime, Gary Owen, Brad Birch, Meic Povey a Dafydd James.

Yn 2010 dewiswyd Mared fel un o Gyfarwyddwyr Newydd National Theatre Wales, gan weithio ar y cynhyrchiad llwyddiannus The Persians.

Wrth sôn am ei swydd newydd, meddai Mared: "Dwi'n falch iawn fy mod yn ymuno a thîm Sherman Cymru yn ystod y cyfnod hynod gyffroes yma o fewn theatr yng Nghymru."

Bydd Mared yn cychwyn ar ei swydd newydd yn Sherman Cymru ddiwedd fis Medi.

Rhannu |