Mwy o Newyddion
Rhaid i Theresa May roi terfyn ar dangyllido Cymru
Mae Plaid Cymru wedi mynnu fod y Prif Weinidog yn rhoi terfyn ar dangyllido cronig Cymru gan San Steffan, gan rybuddio na fyddai Cymru wedi Brexit yn gallu ymdopi gyda thangyllido parhaus.
Dywedodd llefarydd y Blaid ar y trysorlys, Jonathan Edwards AS, tra bod llywodraeth Lafur ‘flinedig a heb ddiddordeb’ yng Nghaerdydd wedi caniatau i San Steffan barhau â ‘Fformiwla Barnett’ sydd yn hynod annheg ac wedi colli ei hygrededd, ni all Cymru wedi Brexit ymdopi heb bolisi newydd a theg i ddosbarthu cyfoeth y DG.
Sefydlwyd Fformiwla Barnett ym 1978 fel dull dros dro o gyllido gweldydd datganoledig y DG.
Yn hanesyddol, bu’n anghymesur o deg i’r Alban ar draul Cymru.
Canfu adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd yn 2009 petai Cymru yn cael ei chyllido ar yr sail â rhanbarthau Lloegr, y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn rhyw £300 miliwn yn fwy y flwyddyn nac yr oedd yn dderbyn ar y pryd gan Drysorlys y DG.
Rhybuddiodd Mr Edwards, gyda Chymru heb fanteisio mwy o bolisi’r Undeb Ewropeaidd o gefnogi rhannau tlotaf Ewrop yn ariannol, y byddai gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael eu hamddifadu oni fydd San Steffan yn cytuno i roi terfyn ar eu penderfyniad styfnig i wrthod rhoi i Gymru ei chyfran deg o gyllid cyhoeddus.
Dywedodd Jonathan Edwards: “Gyda Chymru yn wynebu dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, rhaid gorfodi San Steffan i roi i Gymru ei chyfran deg o gyllid.
“Tra bod Llywodraeth Lafur flinedig yng Nhaerdydd heb ddiddordeb ac yn hapus i adael i San Steffan wrthod rhoi i Gymru ei chyfran deg o gyllid cyhoeddus, rhaid bod yn ddiolchgar fod Cymru wedi elwa o bolisi’r UE o ailddosbarthu cyfoeth o rannau cyfoethocaf yr UE i’r rhannau tlotaf.
“Gyda Chymru yn cael ei llusgo allan o’r Undeb Ewropeaidd fodd bynnag, byddwn yn colli’r cyllid ychwanegol hanfodol hwn a bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu’n gyfan gwbl ar bolisi cyllido San Steffan sydd wedi bod mor niweidiol i Gymru cyhyd.
“Gwyddom nad yw Cymru yn cael ei chyfran deg, ond er fod pob plaid yn sylweddoli hyn, ni fu’r un llywodraeth yn San Steffan yn awyddus i newid eu polisi.
"Mae’n ddigon hawdd i wleidyddion San Steffan ddweud ein bod yn rhy dlawd a rhy wan tra’u bod hwythau yn parhau i gyfyngu ar yr arian a ddaw yma.
“Unwaith i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd y biliynau o bunnoedd mae Cymru’n dderbyn trwy bolisiau dosbarthu cyfoeth yr UE yn diflannu.
"Mae’n hanfodol yn awr i Gymru gael ei thrin yn deg gan San Steffan.
“Nid mater o wladgarwch na balchder mo hyn, ond a fydd gennym ddigon o arian ai peidio i dalu am ein GIG, ein hysgolion a’n heconomi.
“Nid gofyn am driniaeth ffafriol yr ydym. Rydym yn mynnu fod Cymru yn derbyn ei chyfran deg.”