Mwy o Newyddion
Rali Llangefni: 'addysg yw'r allwedd i achub yr iaith'
Bydd disgybl ysgol o Amlwch yn mynnu bod gwell addysg Gymraeg i bob plentyn yn y gogledd ac Ynys Môn yn rali flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Llangefni yfory.
Mae nifer o ysgolion Ynys Môn yn parhau i ddarparu addysg sy'n golygu bod plant heb y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn Gymraeg wrth adael y system addysg.
Rhwng 2009 a 2013 buodd cwymp yng nghanran y disgyblion 14 mlwydd oed a gafodd eu hasesu yn iaith gyntaf i lawr i 62% ar yr ynys.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae gan y cyngor gynllun i gwella darpariaeth pob ysgol fel bod yr addysg yn gyfan gwbl Gymraeg drwy symud ysgolion i fyny categorïau ieithyddol.
Bydd nifer o siaradwyr lleol, gan gynnwys y Prifardd Cen Williams, y Cyng Carwyn Jones, o Gyngor Môn; Gwion Morris Jones; Paul Magee, disgybl mewn ysgol leol, a Siân Gwenllian AC yn annerch y dorf yn y rali a fydd yn cael ei gynnal am 2pm, ddydd Sadwrn 8fed Hydref yn Sgwâr Bulkley yng nghanol dref Llangefni.
Wrth siarad cyn y rali flynyddol genedlaethol y Gymdeithas yn y dref, dywedodd Gwion Morris Jones, disgybl 17 mlwydd oed sy'n mynychu Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch: "Yn fy marn i, addysg Gymraeg yw allwedd achub yr iaith.
"Mae dulliau trochi wedi eu profi'n llwyddiannus iawn yn nifer o rannau o'r wlad.
"Dylen ni ei ystyried fel rhywbeth di-gwestiwn ar draws y Gogledd.
"Dylai addysg cyfrwng Cymraeg effeithiol fod yn ddi-amod; rhywbeth angenrheidiol i bob plentyn.
"Mae addysg Gymraeg wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi ac wedi fy nghryfhau i fel unigolyn.
"Dydy o ddim yn hawdd weithiau achos bod y meddylfryd dal i fod y dylai pethau ffurfiol fod yn Saesneg. Ond mae'r Gymraeg wedi agor drysau i mi ac wedi rhoi cyfleoedd fel gweithgareddau'r Urdd ac eraill."
Ychwanegodd Menna Machreth, cadeirydd rhanbarth Gwynedd-Môn y mudiad: "Mae'n gyffrous iawn bod y Gymdeithas wedi dewis cynnal y rali flynyddol yn Ynys Môn a hynny flwyddyn cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ddod i'r sir.
"Yn sicr, fedrwn ni ddim parhau efo cyfundrefn addysg sy'n amddifadu cymaint o'n plant o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg – pam ar wyneb ar ddaear ydy cymaint â thri ym mhob deg o'n plant yn y sefyllfa yma?
"Mae'n gwbl annerbyniol yn y 21ain ganrif – ac mae rhaid i'r cyngor sir ateb am eu diffyg uchelgais.
"Mae'n rhaid iddyn nhw sicrhau bod pob un plentyn yn cael addysg gyfan gwbl Gymraeg eu hiaith er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.
"Mae hefyd diffyg cynllunio addysg yn y sir yn wyneb datblygiadau enfawr Land & Lakes, y Cynllun Datblygu Lleol a'r mewnlifiad os daw Wylfa B. Mae'n rhaid i'r gwleidyddion fynd i'r afael â hyn."
Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith am 10.30 bore dydd Sadwrn, 8fed Hydref yng Nghlwb Y Wellman's, Llangefni a’r Rali am 2 o'r gloch y prynhawn yn Sgwâr Bulkley yng nghanol y dref.