Mwy o Newyddion
Wi-Fi am ddim yn Llanelli
Mae cysylltiad Wi-Fi am ddim wedi cael ei gyflwyno yng Nghanol Tref Llanelli diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Llanelli.
Bellach mae pwynt cyswllt Wi-Fi allanol y tu allan i'r Hwb ar gyfer Sgwâr Stepney yn weithredol.
Mae'r Cyngor Tref wedi talu am osod cyfnerthyddion sy'n caniatáu mynediad i system y Cyngor Sir ar Sgwâr Stepney.
Dywedodd y Cynghorydd Bill Thomas, Maer y Dref: “Rwyf wrth fy modd ein bod ni wedi gallu cyflwyno Wi-Fi am ddim yng nghanol y dref.
"Awgrymodd fy nghydweithiwr, Winston Lemon y syniad beth amser yn ôl ac ar ôl ystyried nifer o opsiynau, o'r diwedd rydym wedi gallu darparu'r adnodd.
"Rwy'n siŵr y bydd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gwerthfawrogi'r cysylltiad Wi-Fi.”
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Dyma'n union y math o fenter rwyf i am ei gweld yn cael ei darparu drwy'r Tasglu Adfywio.
"Mae'r Cyngor Sir eisoes yn darparu Wi-Fi yn yr Hwb ac felly roedd gosod y cyfnerthyddion yn syniad synhwyrol er mwyn i bobl allu defnyddio'r rhyngrwyd ar Sgwâr Stepney."