Mwy o Newyddion
Ifor ap Glyn yn rhoi hanes yr iaith mewn 50 gair
Sut mae mynach Cymreig a math o fwyell neu dwca yn rhoi’r gair talcen i ni?
Pam fod pili-pala yn igamogamu yn debyg i Jac y Jwc?
A pham fod sesh a seiat yn perthyn i’w gilydd?
Mewn cyfres o eitemau newydd ar Radio Cymru fe fydd y bardd cenedlaethol Ifor ap Glyn yn cynnig atebion.
Mae Ifor yn mynd ar daith o gwmpas Cymru gan olrhain hanes yr Iaith mewn hanner can gair.
Bydd yn rhannu ei obsesiwn gyda geiriau a’u tarddiad, ac wrth wneud hynny yn ein helpu i esbonio pwy ydyn ni’r Cymry.
Bydd y gyfres yn gwneud i ni feddwl am eiriau mewn ffordd wahanol wrth i Ifor ganolbwyntio ar eiriau mae pawb yn defnyddio – gan ystyried o ble maen nhw’n dod, a beth yw eu hanes? Sut mae eu hystyron wedi newid, neu’r ffordd rydyn ni’n eu defnyddio?
Darlledir yr eitemau dyddiol ar raglen Bore Cothi a bydd modd gwrando hefyd ar yr eitemau unrhyw bryd ar wefan bbc.co.uk/radiocymru
Meddai Ifor ap Glyn: “Gan mod i wedi fy magu mewn tŷ dwyieithog (Cymraeg Arfon a Chymraeg Ceredigion!) dwi wastad wedi ymddiddori yn y ffordd ’dan ni’n dweud pethau a dewis geiriau.
"Yn y coleg wedyn, ces i fy nghyflwyno i hanes yr iaith gan y diweddar Athro Ceri Lewis.
"Ond yr ysgogiad i lunio cyfres o’r math yma oedd gwrando ar sgwrs gan Dr. David Crystal o Gaergybi.
"Mae David yn un o arbenigwyr mwya blaenllaw’r byd ar yr iaith Saesneg ac roedd newydd gyhoeddi ‘The story of English in 100 words’.
"Awgrymodd y gellid gwneud rhywbeth tebyg yn y Gymraeg a dyma finnau’n neidio at y cyfle.
“Ond pam Hanes yr Iaith mewn Hanner cant o eiriau? Wel heblaw bod y teitl yn cyflythrennu, don i ddim isio tynnu gormod o gowlad i ’mhen ar unwaith! A phwy a ŵyr? Os oes gan bobl ddiddordeb efallai y bydd gofyn am hanner cant arall eto!”
Bydd y gyfres yn esbonio sut mae’r Gymraeg wedi bathu geiriau newydd - trwy eu dyblu (pili pala, igam ogam), trwy eu byrhau (ap), trwy gyfuno elfennau o eiriau eraill (podlediad).
Fe ddewn ni ar draws enwau priod yn troi’n enwau cyffredin (meuryn) ac ystyron geiriau yn newid dros gyfnod o amser (sad, cenedl).
Bydd Hanes yr Iaith mewn 50 gair hefyd yn dangos sut mae’r Gymraeg wedi benthyg geirfa o’r Lladin, Gwyddeleg, Norseg a’r Ffrangeg – yn ogystal wrth gwrs â’r Saesneg.
Meddai Dr Llion Jones. Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor: “Mewn cyfres sy’n addysgu a difyrru, mae Ifor ap Glyn yn agor ffenest lydan a lliwgar ar ein hanes fel pobol ac yn mynd at galon ein hunaniaeth. Mae creu ymwybyddiaeth o hanes cyfoethog y Gymraeg yn meithrin yr ewyllys i weithio dros ei pharhad."
Dyma’r geiriau fydd yn cael sylw Ifor yn ystod yr wythnos gyntaf:
- Talcen
- Pili pala
- Cloch
- Cant
- Sesh