Mwy o Newyddion
Rhyfel Yemen yn ysbrydoli Prifardd Eisteddfod Y Fenni
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Barddoniaeth, mae Prifardd Cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni Aneirin Karadog wedi ysgrifennu cerdd am y sefyllfa gyfredol yn Yemen:
“Meanwhile in other news…”
Mae `na feirdd sy’n cael eu herio
dan gwyno nad yw’r inc yn llifo,
ond y funud hon draw yn Yemen
mae beirdd a ŵyr am golli awen.
Mae llawr ein gwlad yn rhacs gan eiriau
a pharch i gyd-ddyn nawr dan warchae;
ond mae Yemen yn profi grymoedd
o gawodydd trwm ein punnoedd.
Mae rhai’n bytheirio ac yn gwgu
fod coffrau’r wlad yn cael eu llwgu
ond rwy heddiw’n ddechrau amau
a welson’ hwythau ddagrau’r mamau.
Aneirin Karadog
Mae’r bardd, ynghyd â thri arall – Anni Llŷn, Twm Morys a Gwyneth Glyn - wedi ymgymryd â’r her a osodwyd iddynt gan Lenyddiaeth Cymru i ysgrifennu 100 cerdd mewn 24 awr.
Mae deunaw mis o ryfela wedi gadael Yemen mewn sefyllfa drychinebus.
Mae’r cyrchoedd awyr yno bellach wedi gorfodi dros 3.1 miliwn o bobl i ffoi o’u cartrefi, wedi lladd dros 6,700 o bobl, ac wedi anafu dros 33,000 ers mis Mawrth 2015.
Mae 21.1 miliwn o bobl y wlad - dros 80% o’r boblogaeth - angen cymorth brys, ac mae newyn yn bygwth y wlad.
Meddai Kirsty Davies-Warner, Pennaeth Oxfam Cymru: “Yn Yemen, fel yn Syria, mae miliynau o bobl yn dioddef – ond gan nad oes unrhyw sylw wedi bod o’r sefyllfa yn Yemen yn y wasg, mae llywodraethau gorllewinol wedi parhau i fwydo’r gwrthdaro - wrth werthu arfau sy’n cael eu defnyddio yn y rhyfel - a hynny yn ddi-gosb.
“Mae’r sefyllfa yn Yemen yn debyg i Syria – ond heb y camerâu.
"Roedd Yemen yn andros o dlawd cyn y rhyfel, ond ers i’r Deyrnas Unedig, y Cenhedloedd Unedig ac eraill barhau i werthu arfau, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i bawb sydd ynghlwm a’r brwydro, mae’r sefyllfa gwaethygu yn ddyddiol.
“Mae angen i arweinwyr byd fynnu heddwch yn hytrach na llenwi eu pocedi ac arian arfau. Gallwch chi helpu heddiw hefyd, wrth roi arian at apêl Oxfam, fydd yn ein galluogi ni i gyrraedd mwy o bobl yn y rhanbarth.”
Hyd yma mae Oxfam wedi cyrraedd dros 913,000 o bobl yn Yemen gyda dŵr, talebau bwyd, pecynnau glendid a deunyddiau hanfodol eraill.
I gyfrannu at ymateb Oxfam yn Yemen ewch i: https://donate.oxfam.org.uk/emergency/yemen