Mwy o Newyddion
Profiadau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn 2015-16
Heddiw, cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad sy’n rhoi ciplun o brofiadau’r cyhoedd wrth ddefnyddio gwasanaethau Cymraeg.
Rhwng Rhagfyr 2015 a Mawrth 2016 cynhaliodd y Comisiynydd gyfres o arolygon i ganfod beth yw realiti profiad defnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus.
Roedd y gwasanaethau’n cynnwys derbynfeydd, gwasanaethau ffôn, ar-lein, ar e-bost ac mewn gohebiaeth.
Canlyniadau’r arolygon hyn yw sail yr adroddiad ‘Amser gosod y safon’.
Dyma rai o’r prif ganfyddiadau:
- Cynigiwyd gwasanaeth ffôn yn Gymraeg yn rhagweithiol gan 58% o sefydliadau, ond roedd yn rhaid gofyn am y gwasanaeth Cymraeg mewn 42% o achosion.
- Dim ond 19% o wefannau oedd yn cynnig opsiwn i ddarllen y cynnwys yn Gymraeg ar bob tudalen.
- Ni chafwyd unrhyw ymateb i ohebiaeth a anfonwyd yn Gymraeg at 26% o sefydliadau cyhoeddus.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Fe osodais fy hun yn esgidiau defnyddwyr gwasanaeth er mwyn deall sut brofiad yw hi i geisio gwasanaethau Cymraeg yng Nghymru heddiw.
“Daw’r adroddiad i’r casgliad bod rhaid i unigolion sy’n dewis, neu angen, defnyddio’r Gymraeg ddyfalbarhau er mwyn sicrhau eu bod yn cael gwasanaeth.
"Nid wyf yn teimlo ei bod hi’n rhesymol nag yn deg bod disgwyl i’r sawl sy’n ceisio gwasanaeth Cymraeg ddyfalbarhau yn fwy na rhywun sy’n dymuno derbyn gwasanaeth yn Saesneg.
“Mae’r canfyddiadau yn dangos bod angen i sefydliadau cyhoeddus newid gêr a darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd da fydd yn galluogi pobl Cymru i gynyddu eu defnydd o’r iaith yn eu bywydau bob dydd.
“Un peth arwyddocaol sydd wedi digwydd ers cynnal yr arolygon hyn yw bod sefydliadau cyhoeddus wedi dechrau gweithredu safonau’r Gymraeg, sef dyletswyddau statudol sy’n dweud beth ddylai sefydliadau ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg.
"Mae safonau’n gadarnach na’r gyfundrefn flaenorol o gynlluniau iaith, ac mae arwyddion cynnar yn awgrymu bod sefydliadau sy’n gweithredu safonau’n mynd ati’n rhagweithiol i gynyddu sgiliau dwyieithog y gweithlu er mwyn gallu cynnig gwasanaeth o ansawdd yn y Gymraeg.
“Gobeithiaf y bydd yr adroddiad yn cymell sefydliadau i sianelu eu hymdrechion yn effeithiol i wella profiad y cyhoedd ac i adeiladu ar yr hyn maen nhw eisoes yn ei wneud yn Gymraeg.
"I’r perwyl hwn, rwyf wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau gyda sefydliadau cyhoeddus ar draws Cymru, er mwyn hwyluso’r drafodaeth a galluogi sefydliadau i rannu arferion da.”