Mwy o Newyddion
Prif weithredwr newydd i'r Cyngor Llyfrau
Cyhoeddwyd heddiw mai Helgard Krause fydd yn olynu Elwyn Jones fel Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. Bydd yn dechrau ar ei swydd ar 1 Chwefror 2017.
Yn enedigol o’r Almaen, cafodd Helgard ei magu yn ardal Rheinland Pfalz, mewn tref fechan ar y ffin â Ffrainc.
Graddiodd mewn gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Berlin cyn dilyn cwrs mewn llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Sussex ym 1993.
Mae hi wedi gweithio i sawl cwmni ym maes cyhoeddi, gan gynnwys Routledge a chwmni dosbarthu yn Rwsia.
Yn ddiweddarach ymunodd â chwmni cyhoeddi Rotovision, gan ddod yn Bennaeth Gwerthu a Hawlfreintiau ac arwain eu cynlluniau marchnata yn Tsieina, Siapan, Awstralia ac America.
Symudodd i fyw i Gymru yn 2002, pan gafodd ei phenodi’n Swyddog Marchnata Tramor i’r Cyngor Llyfrau.
Yn dilyn dwy flynedd o hyrwyddo llyfrau Cymru ar draws y byd, fe’i penodwyd i’r swydd Pennaeth Gwerthu a Marchnata i arwain y tîm gwerthu a marchnata.
Ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru.
Wrth gyhoeddi’r penodiad heddiw, dywedodd Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M. Wynn Thomas: “Mae hwn yn benodiad rhagorol i swydd allweddol.
"Mae gan Helgard Krause gyfoeth o brofiad a sgiliau.
"Bydd hynny’n help i sicrhau dyfodol cadarn i sefydliad cenedlaethol amlwg sydd o’r pwys mwyaf o ran diogelu diwylliant Cymru yn y ddwy iaith.”