Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Hydref 2016

Canmoliaeth fawr i hostel i'r digartref

Bu Sian Gwenllian, AC Plaid Cymru dros Arfon yn ymweld â hostel i’r digartref yng Nghaernarfon, ac roedd hi’n llawn edmygedd o’r gwaith sydd yn cael ei wneud yno gan elusen Gisda, yn cefnogi pobol ifanc rhwng 16-25 oed.

Mae saith ystafell yn hostel Hafan, ble mae pum dyn ifanc a dwy ferch ifanc yn byw ar hyn o bryd.

Caiff neb eu troi i ffwrdd gan Hafan waeth beth fo’u hanhawster, ond mae’r prinder ystafelloedd yn golygu bod 16 person ifanc ar y rhestr aros ar hyn o bryd.

“Siaradais i gyda Sian Tomos sydd yn rhedeg Hafan, ac mae yna nifer fawr o bobol ifanc sydd ddim efallai ar y stryd, ond sydd heb gartref eu hunain ac yn dibynnu ar ewyllys da ffrindiau am noson ar y soffa,” meddai Sian Gwenllian.

“Mae gan lawer broblemau eraill sydd angen sylw, heb fawr ddim cefnogaeth deuluol, sy’n golygu bod peryg wedyn i’r problemau rheiny waethygu.”

Mae Gisda hefyd yn cynnig cefnogaeth ysbeidiol, ble mae pobol ifanc yn cael cefnogaeth yn eu cymunedau heb gael eu lletya mewn hostel, ac mae’r rhai sydd wedi bod mewn hostel yn cael cefnogaeth ar ôl gadael Hafan hefyd.

“Dydi’r drws byth ar gau yn Hafan, a gall y bobol ifanc ddychwelyd yno os ydyn nhw’n ffeindio’u bod yn ei chael hi’n anodd byw tu allan i’r hostel,” meddai Sian Gwenllian.

“Roedd hi’n amlwg wrth imi siarad efo’r bobol ifanc bod y gefnogaeth a’r gwasanaethau maen nhw’n ei gael yno yn hollbwysig.

"Mi ges i dreulio amser efo Chloe, sydd ond newydd droi yn ddeunaw oed, ac mi ddywedodd hi wrtha i ba mor hapus yw hi yn Hafan.

"Mae hi bellach yn gweithio tuag at symud ymlaen ac yn teimlo’n hyderus ei bod bellach yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i wneud byw yn annibynnol yn bosibilrwydd go iawn.

“Mae Chloe wedi chwarae pêl-droed dros Gymru – y ferch ieuengaf i gael gêm yn y tîm cyntaf.

"Mae’n amlwg ei bod yn ferch ifanc ddawnus ond ei bod wedi cael trafferth gyda rhai agweddau o’i bywyd.

"Mae’r gefnogaeth mae hi wedi ei gael gan staff Hafan yn golygu y bydd hi cyn hir yn medru sefyll ar ei thraed ei hun unwaith eto, a phwy ag ŵyr yr aiff hi yn ôl i chwarae pêl-droed.

“Mi ddywedodd wrtha i ei bod wedi mwynhau ei chyfnod yn Hafan, a’i hunig bryder oedd bod y diffyg lle yn golygu bod gofyn rhannu ystafell molchi efo’r trigolion eraill, sydd ddim bob tro yn gyfforddus ble mae gwahaniaeth rhyw neu oedran.

"Mae hyn yn fater y byddai’r staff wrth eu boddau yn medru taclo, ond mae unrhyw waith moderneiddio yn costio, wrth gwrs.

“Mi fyddai’n wych o beth petai Gisda yn medru darparu mwy o le i bobol ifanc fel Chloe sydd gymaint ei angen, ac yn ôl y staff byddent yn hawdd yn medru llenwi Hafan dair gwaith drosodd.

"Roedd yna awyrgylch hyfryd yno, a’r bobol ifanc yn cymryd rhan mewn sesiwn grefft tra roeddwn i yno, ac yn mwynhau bwyd oedd wedi ei baratoi ganddynt yn y sesiynau coginio cymunedol.

"Mae’r gwasanaeth yma yn cael ei werthfawrogi’n arw gan y rhai sydd yn Hafan, ac rwy’n mawr obeithio y bydd Gisda yn medru ehangu ar y gwaith da dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Rhannu |