Mwy o Newyddion
Gwnewch barcio yn rhad ac am ddim yng nghanol trefi Cymru
Dylai parcio fod am ddim yn nhrefi Cymru er mwyn cadw canol ein trefi yn brysur, fe ddywed Plaid Cymru heddiw.
Bydd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol, Sian Gwenllian, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cronfa newydd i alluogi awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i gynnig parcio am ddim mewn trefi ledled Cymru i gefnogi siopau a busnesau lleol.
Dywedodd Sian Gwenllian fod mwy o siopau gwag ar brif strydoedd Cymru na gweddill y DG, a dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod yr angen i gefnogi’r stryd fawr er mwyn ei chadw’n ganolfan economaidd fywiog.
Cyn y ddadl, dywedodd Sian Gwenllian: “Canol trefi yw canolbwynt y gymuned leol a’r economi lleol, ond ar hyn o bryd, maent yn cael eu gadael ar ôl oherwydd amgylchiadau economaidd anodd.
"Mae ffigyrau mynychwyr o drefi ar hyd a lled Cymru yn tynnu darlun llwm, gyda chanol trefi fel y Fenni, yr Wyddgrug ac Aberystwyth yn gweld dirywiad mewn mynychwyr o 39%, 28% a 18%.
“Mae Plaid Cymru yn cydnabod pwysigrwydd stryd fawr fywiog ac amrywiol o ran cefnogi perchenogion busnesau lleol a’r economi lleol, a gwyddom fod diffyg parcio am ddim yn aml yn ddigon i droi siopwyr ymaith.
"Mae datblygiadau ar gyrion trefi yn aml yn cynnig parcio am ddim felly mae’n anodd iawn i’r stryd fawr gystadlu.
“Trwy ganiatau i awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol ddarparu parcio am ddim i siopwyr, gallwn helpu i gadw’r cae chwarae yn wastad i’r strydoedd mawr a denu siopwyr yn ôl yno.
"Mae Plaid Cymru eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn sefydlu cronfa i helpu awdurdodau lleol gyda chost hyn.
“A gallwn wneud mwy fyth.
"Gallwn ostwng trethi busnes i fusnesau bach a dwyn 70,000 ohonynt allan o dalu trethi yn gyfan gwbl, a gallwn geisio cau’r bwlch cyllido hwnnw o £500 miliwn y mae busnesau bach yn wynebu trwy sefydlu Banc Datblygu Cymru gyda digon o gyllid, er mwyn benthyca i fusnesau bach a’u helpu i dyfu.
“Allwn ni ddim anwybyddu pa mor bwysig yw’r stryd fawr i les ardal leol.
"Mae stryd fawr fywiog yn aml yn arwydd o economi lleol bywiog, felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i achub y stryd fawr.”