Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Hydref 2016

Y llywodraeth yn mabwysiadu cynigion Plaid Cymru i gadw 22 awdurdod lleol

Dan gynigion a gyflwynwyd heddiw gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, byddai awdurdodau lleol yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau pwysig.

Ni fyddai newid i'r nifer presennol o awdurdodau lleol, ond byddai Llywodraeth Cymru'n helpu awdurdodau i uno'n wirfoddol.

Wrth ymateb i ddatganiad, dywedodd Aelod cysgodol Cabinet Plaid Cymru dros Lywodraeth Leol, Sian Gwenllian: “Mae Plaid Cymru yn wastad wedi galw am gadw’r 22 awdurdod lleol ac yr wyf yn falch fod y llywodraeth yn awr yn cefnogi’r farn hon.

“Hyd yma, gwelsom Lafur yn chwit-chwat fel arfer ar y mater hwn, ond yr wyf yn falch fod y Gweinidog heddiw wedi cadarnhau y bydd yn gwneud tro pedol trwy ddileu cynlluniau Llafur i orfodi uno amhoblogaidd a chadw’r 22 awdurdod lleol.

“Roedd Plaid Cymru eisiau gweld cynghorau yn cydweithredu dan fodel rhanbarthol, a bod â’r dyletswydd i gynllunio’r strategol am wasanaethau, addysg, trafnidiaeth ac integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.

"Fodd bynnag, nid yw cynlluniau’r llywodraeth fel y’u cyhoeddwyd heddiw ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn eglur.

"Mae Plaid Cymru eisiau eu gweld yn datblygu ymhellach er mwyn cyflwyno gwasanaeth diwnïad i gleifion.

“Mae angen i’r llywodraeth hefyd amlinellu lle mae atebolrwydd democrataidd yn gorwedd yn y system newydd, a rhaid ystyried hyn o ddifrif wrth i’r cynlluniau fynd rhagddynt.”

Rhannu |