Mwy o Newyddion
Cam ymlaen i bentref gwyrdd
Bydd Llanaelhaearn a’r cylch yn cymryd cam mawr ymlaen tuag at fod yn bentref gwyrdd yr wythnos hon.
Mae Antur Aelhaearn, trwy gyd weithio gyda ffermwyr lleol, wedi datblygu syniad am brosiect i osod melinau gwynt ar gyrion y pentref. Y gobaith gan yr Antur yw y bydd y melinau yn cyfrannu at yr economi leol drwy hybu cyflogaeth a thwristiaeth yn yr ardal.
Cyn datblygu mwy ar y syniad mae’r Antur yn awyddus iawn i wybod beth fyddai barn y trigolion am ddatblygiad o’r fath.
“Os nad oes mantais i’r gymuned ehangach does dim pwynt mynd ymlaen gyda’r cynllun.” meddai un o’r ffermwyr lleol, Iolo Ellis Moelfra Bach.
“Ein bwriad yw gweithio mewn partneriaeth ag Antur Aelhaearn i sicrhau bod budd i’r gymuned,” ychwanegodd John O Pritchard Llechgaran Uchaf.
Bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar y 13eg o Orffennaf o 4 o'r gloch ymlaen, yng Nghanolfan y Babell er mwyn casglu barn y trigolion lleol a fydd yn rhoi cyfeiriad i’r grŵp i weld os dylai barhau gyda datblygu’r syniad neu beidio.
“Mae’n hynod o bwysig bod y gymuned yn dod allan i glywed am y prosiect ac i leisio barn,” meddai Dr Carl Clowes cadeirydd cyntaf ac un o sefydlwyr Antur Aelhaearn.
Mae trafodaethau cynnar iawn eisoes wedi ei gynnal gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn, Asiantaeth Amgylchedd, CADW, Adran Polisi Cynllunio Cyngor Gwynedd, Cyngor Cefn Gwlad a chyrff perthnasol eraill, ac mae’r ymateb wedi bod yn lled ffafriol.
Yn ogystal mae astudiaeth dichonoldeb cychwynnol wedi ei chomisiynu gan gwmni “Ynni Glan” a’i bartneriaid “Seren Energy” ac mae’n dangos yn glir bod cyfle i ddatblygu fferm wynt gymunedol yn yr ardal.
Bydd diwrnod agored yn cael ei gynnal yn y ganolfan yn Llanaelhaearn ar y13eg o Orffennaf ac mae croeso i bawb alw i mewn ar unrhyw amser i leisio barn ac i ofyn cwestiynau.
Bydd Mr Guto Owen o “Ynni Glan” i ateb unrhyw gwestiwn fydd yn codi o’r astudiaeth ddichonoldeb sydd wedi ei chynnal. Disgwylir Mr Dafydd Watts swyddog gyda phrosiect cenedlaethol ynni cymunedol “Ynni’r Fro” i egluro sut y gall y prosiect fanteisio ar y gronfa honno. Arianir “Ynni’r Fro” gan Lywodraeth Cymru.
Caiff y digwyddiad a’r gwaith ymchwil ei gefnogi gan Gronfa Arloesi ,Llwyddo yng Ngwynedd.