Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Hydref 2016

Galw ar gymunedau i ddod at ei gilydd i ddathlu’r Gymraeg trwy ddweud Shwmae

GYDA Diwrnod Shwmae Su’mae yn prysur agosáu, mae galw ar gymunedau ar draws Gymru i ddod at ei gilydd i ddathlu’r achlysur ar Sadwrn 15 Hydref.

Ers sefydlu’r ymgyrch pedair blynedd yn nol, mae ysgolion, colegau a gweithleoedd ar draws y wlad wedi cynnal ystod o weithgareddau, o sesiynau coffi a chlonc i weithdai bît bocsio. 

Gan fod Diwrnod Shwmae Su’mae ar ddydd Sadwrn eleni, mae angen sicrhau fod unigolion, clybiau a busnesau yn nodi’r diwrnod yn eu cymunedau, boed ar y stryd fawr neu ar y cae chwarae.

Mudiad ambarél Dathlu’r Gymraeg sy’n ysgogi’r dathliadau, ond mae’r diwrnod yn eiddo i bawb.

Meddai Rebecca Williams, cadeirydd Dathlu’r Gymraeg: “Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn gyfle i ddathlu’r iaith – ac i sicrhau’r nifer fwyaf o gyfleoedd posib i’w defnyddio – drwy gyfarch yn Gymraeg ar y dechrau, yn hytrach na diolch yn Gymraeg ar y diwedd!

“Mae’n ffordd o ddangos, mewn ffordd llawn hwyl, fod y Gymraeg yn rhan o fywyd bob dydd.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld creadigrwydd yr holl weithgareddau ar draws y wlad – ac o bosib y tu hwnt.”

Gan ei fod yn ddydd o ddathlu ar lawr gwlad, cynigir rhywbeth at ddant bawb. 
Boed yn fore coffi yn Wrecsam neu Gaerffili, Peppa Pinc yn diddanu plant Sir Gâr, seremoni wobrwyo yn Sir Benfro, gŵyl i ddysgwyr ym Mhowys, noson o gawl â chân yn Nolgellau, neu gwrw a choctels yng Nghaerdydd.

Rhedeg busnes? Beth am gynnig gostyngiad neu gynnig arbennig i gwsmeriaid sy’n eich cyfarch yn y Gymraeg?

Mae tîm Hybu a Hwyluso Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig gwasanaeth prawf ddarllen am ddim i unrhyw fusnes sydd am greu taflenni, bwydlenni neu arwyddion Cymraeg ar gyfer Diwrnod Shwmae Su’mae.

Gan nad yw’r ymgyrch yn derbyn unrhyw nawdd neu gyllid cyhoeddus, mae ei lwyddiant yn ddibynnol ar ymroddiad a brwdfrydedd yr unigolion a sefydliadau sy’n cymryd rhan.

Mae dal amser i drefnu digwyddiad.

Mae adnoddau i hwyluso’r trefnu a rhestr o be sy ‘mlaen ar gael o wefan http://www.shwmae.cymru

Rhannu |