Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Hydref 2016

Plaid Cymru yn beirniadu Llywodraeth Prydain am drin staff iechyd fel gwystlon

Mae Rhun ap Iorwerth AC Ysgrifennydd Iechyd Cysgodol Plaid Cymru wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Prydain i roi terfyn ar ‘ddibyniaeth’ Gwasanaeth Iechyd Lloegr ar staff meddygol o dramor, gan gyhuddo’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt o drin staff iechyd fel gwystlon.

Wrth siarad gyda’r BBC y bore ma, cododd y Prif Weinidog Theresa May ansicrwydd dros ddyfodol meddygon tramor sydd eisoes yn gweithio yn y DG ac fyddai efallai eisiau aros yma tu hwnt i 2025 – blwyddyn darged y llywodraeth i greu NHS ‘hunangynhaliol.’

Mae Rhun ap Iorwerth AC wedi annog Prif Weinidog Llafur Cymru i amlinellu pa gamau fydd ei lywodraeth yn eu cymryd i warchod staff meddygol Cymru, gan ei herio i geisio pwerau i greu visas i’r Gwasanaeth Iechyd Cymreig i sicrhau dyfodol gweithwyr y tu hwnt i Brexit.

Meddai: “Mae cynlluniau Llywodraeth Prydain yn peri pryder mawr. Bob dydd, mae staff meddygol yn mynd tu hwnt i’w dyletswyddau i ddarparu safon gofal gwych mewn amgylchiadau cynyddol anodd.

“Mae’n gwbl annerbyniol fod y Prif Weinidog yn creu amheuaeth dros ddyfodol staff gweithgar o dramor sydd wedi dewis ymrwymo eu hamser ac egni i’r gwasanaeth iechyd fan hyn.

“Ers peth amser mae Plaid Cymru wedi galw am i fwy o bobl ifanc o Gymru gael eu hyfforddi yma er mwyn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Cymreig.

"Ond rhaid iddynt fedru gweithio ochr yn ochr gyda dinasyddion rhyngwladol a’r UE sydd hefyd yn gwneud cyfraniad hollbwysig i’n gwasanaeth iechyd.

“Mae sylwadau Jeremy Hunt fwy neu lai yn nodi na fydd dinasyddion yr UE yn medru dod yma ar ôl Brexit unwaith y bydd y DG wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2019. Gall hyn arwain at brinder staff difrifol.

“Rwy’n annog y Prif Weinidog i weithredu’n gyflym i warchod gweithwyr iechyd yn yr NHS Cymreig.

"Un cynllun y dylid ei olrhain ar unwaith ydi cyflwyno visas gwaith penodol ar gyfer staff y Gwasanaeth Iechyd. Dylai’r Prif Weinidog lobïo am fwy o bwerau i gyflwyno trwyddedau o’r fath.

“Byddai hyn yn sicrhau statws arbennig i staff meddygol sy’n gweithio yng Nghymru, gan eu galluogi i barhau i weithio a’u gwarchod rhag effaith posib ymadawiad y DG o’r Undeb Ewropeaidd.

“Rwy’n gobeithio y bydd y Prif Weinidog yn bwrw iddi gyda’r polisi synhwyrol hwn fydd yn galluogi ein staff iechyd rhagorol i barhau gyda’i gwaith heb orfod poeni am eu dyfodol. Nid yw cleifion Cymreig yn haeddu dim llai.”

Rhannu |