Mwy o Newyddion
Her 100 Cerdd: Llenyddiaeth Cymru yn gosod her anferthol i bedwar o feirdd Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi gosod her anferthol gerbron pedwar bardd ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth eleni mewn prosiect digidol arloesol ble caiff cant o gerddi gwreiddiol eu cyfansoddi a’u cyhoeddi mewn 24 awr.
Am hanner nos, wrth droi yn ddydd Iau'r 6ed o Hydref bydd Aneirin Karadog, Anni Llŷn, Gwyneth Glyn a Twm Morys yn cychwyn ar eu hymgais uchelgeisiol i gyfansoddi cant o gerddi gwreiddiol rhyngddynt, a’u postio yn fyw ar flog http://www.her100cerdd.co.uk i’r cyhoedd gael eu darllen drwy gydol y cyfnod.
Dyma’r pedwerydd tro i’r Her 100 Cerdd gael ei chynnal, gyda’r tri thîm blaenorol o feirdd yn llwyddo i’w chyflawni eiliadau yn unig cyn hanner nos.
Mae’r beirdd a dderbyniodd yr her dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Elan Grug Muse, Gruffudd Antur, Casia Wiliam a Llŷr Gwyn Lewis, ac ymysg y 300 cerdd a gyhoeddwyd, cafwyd cerddi serch a cherddi dychan, cerddi’n cyfarch babanod newydd a rhai’n moli lleoliadau, cerdd am ddiet a dwy gerdd ar y thema ‘ffrwchnedd’.
Dyfeisiwyd y prosiect digidol hwn yn 2012 i nodi Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol a drefnir gan y Forward Arts Foundation, elusen sy’n dathlu barddoniaeth rhagorol a sydd â’r bwriad o ehangu’r gynulleidfa.
Yn 2014 cafwyd dros 10,000 o ymweliadau i flog Her 100 Cerdd, ac fe anfonwyd cannoedd o negeseuon yn cynnwys yr hashnod #Her100Cerdd ar Twitter a Facebook.
Mae gan y pedwar bardd a dderbyniodd yr her eleni rywbeth yn gyffredin – maent oll yn eu tro wedi teithio i bob cwr o Gymru yn lledaenu cariad at farddoniaeth yn eu rôl fel Bardd Plant Cymru.
Gellir darllen rhagor am y beirdd ar wefan Llenyddiaeth Cymru: http://www.llenyddiaethcymru.org/her-x100-cerdd/
Mae croeso i’r cyhoedd anfon awgrymiadau a cheisiadau am themâu a phynciau i’r beirdd. Gallwch wneud hynny ar Twitter (#Her100Cerdd, @LlenCymru), ar dudalen Facebook Llenyddiaeth Cymru, neu trwy anfon neges at post@llenyddiaethcymru.org