Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Hydref 2016

Gŵyl i gofio Daniel Owen, tad y nofel Gymraeg

MAE Gŵyl Daniel Owen yma eto am y seithfed flwyddyn i gofio tad y nofel Gymraeg.

Eleni mae rhaglen fywiog yr ŵyl yn brolio rhywbeth i blesio pawb, gydag wythnos gyfan o weithgareddau amrywiol, gan gynnwys cyngerdd elusennol er budd Share gyda côr Ysgol Maes Garmon a Pharti’r Siswrn.

Y ddau yn ffefrynnau amlwg gyda chynulleidfaoedd am eu perfformiadau swynol o alawon a chaneuon poblogaidd.

Edrychwch allan am gwrw Daniel Owen fydd yn cael ei lansio gan Fragdy’r Hafod ar gyfer yr wythnos.

Bydd yr ŵyl yn agor ar ddydd Sadwrn, 15 Hydref a cynhelir wythnos o weithgareddau fydd yn gorffen ar nos Wener, 21 Hydref. 

Eleni, Manon Eames, yr actores a’r dramodydd amryddawn fydd yn cyflwyno darlith flynyddol yr ŵyl ar thema geiriau Daniel Owen ei hun sydd yn ymddangos ar ei gerflun: “Nid i’r doeth a’r deallus…” 

Mae noson ychydig yn fwy anffurfiol yn Y Drovers ar Ffordd Dinbych gyda noson meic agored dwyeithiog i’r rheiny sy’n hyderus gyda meicroffon.

Bydd teithiau cerdded gŵyl 2016 yn mynd â chi heibio i dirnodau arwyddocaol ym mywyd Daniel, gan gynnwys taith o gwmpas ei dref enedigol yn Yr Wyddgrug, ac ymweliad â Loggerheads i weld olion y pyllau plwm a oedd yn ysbrydoliaeth i Enoc Huws, ei drydedd nofel.

Gwestai arbennig arall yw Peter Lord, hanesydd celf blaenllaw sydd yn arbenigwr mewn astudiaethau diwylliant gweledol Cymru, fydd yn darlithio ar ddylanwad yr artist Richard Wilson ar ddarlunio’r tirlun Cymreig.

I roi hwb i’n talentau artistig lleol bydd yr artist Eleri Jones yn cynnal gweithgaredd gelf ddwyieithog i’r teulu ar y thema ‘Lein ddillad Daniel Owen’.

Un o uchafbwyntiau blynyddol yr ŵyl yw noson wobrwyo ein hysgrifenwyr ifanc sy’n cael ei threfnu gan Theatr Clwyd.

Mae’r achlysur yn rhoi cyfle heb ei debyg i awduron a dramodwyr y dyfodol weld actorion proffesiynol yn perfformio eu gwaith.

Pwy â ŵyr, efallai bod Daniel Owen ifanc yn ein plith!

Dymuna’r trefnwyr ddiolch am gefnogaeth llu o noddwyr a gwirfoddolwyr ac edrychir ymlaen at ŵyl lwyddiannus arall. 

Ceir y manylion llawn a rhaglen yr ŵyl ar y wefan swyddogol www.gwyldanielowen.com

Mae llawer o’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim ac eraill am bris rhesymol.

Am docynnau neu gwybodaeth gellir ffonio 01352 754791.

Rhannu |