Mwy o Newyddion
Conffyrmasiwn ddim yn hanfodol bellach ar gyfer Cymun Bendigaid, medd Esgobion
Bydd unrhyw un a gafodd eu bedyddio yn gymwys i dderbyn Cymun Bendigaid yn yr eglwys, hyd yn oed os nad ydyn nhw hefyd wedi cael eu derbyn, neu eu conffirmio, o dan ganllaw newydd fydd yn dod i rym ym mis Tachwedd.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ail fabwysiadu’r arfer oedd yn bodoli yn yr eglwys fore ynglŷn â phwy sy’n cael Cymun - sef rhannu bara a gwin - mewn ymgais i gryfhau’r weinidogaeth i blant a phobl ifanc yn arbennig.
Yn y blynyddoedd diweddar mae pobl oedd yn dymuno derbyn Cymun fel arfer wedi gorfod cael eu derbyn yn gyntaf - gan gadarnhau’r addewidion a wnaed ar eu rhan wrth eu bedyddio fel babanod.
Fodd bynnag, o Sul cyntaf yr Adfent - 7 Tachwedd - ymlaen, bydd pawb a gafodd eu bedyddio yn gallu derbyn Cymun.
Bydd y polisi yn cael ei roi mewn grym ar draws yr holl blwyfi ac ardaloedd gweinidogol dros y flwyddyn nesaf.
Wrth gyhoeddi’r newid mewn llythyr bugeiliol, dywedodd esgobion yr Eglwys: “Yn yr Eglwys heddiw, mae yna lawer sy’n credu y byddai tyst yr Eglwys i Iesu Grist, a’r broses o feithrin plant a phobl ifanc yn y ffydd Gristnogol, yn cael ei gryfhau’n aruthrol trwy adfer y symbolaeth gynnar hon.
"Dylai bedydd yn unig gael ei weld fel y porth i gyfranogi ym mywyd yr Eglwys, gan gynnwys mynediad i Sacrament y Cymun Bendigaid.
“Ynghyd â chyngor gan Gomisiwn Athrawiaethol yr Eglwys yng Nghymru, a chan y Corff Llywodraethol, mae Mainc yr Esgobion yn awr eisiau ail fabwysiadu arfer yr Eglwys fore ar fynediad i’r Cymun Bendigaid.
"Rydym yn argyhoeddedig fod pawb a fedyddiwyd, yn rhinwedd eu Bedydd yn unig, yn aelodau llawn o Gorff Crist ac yn gymwys i dderbyn y Cymun Bendigaid.”
Fodd bynnag, gan nad yw plant o dan bump oed yn cael yfed alcohol, rhybuddiodd yr esgobion y dylai’r rhain gael cynnig un math o gymun yn unig, sef y bara.
Byddai angen caniatâd rhieni hefyd i blant hŷn dderbyn y gwin, felly byddai angen i blwyfi gadw cofnodion clir.
Dywedodd yr esgobion y byddai’r polisi yn arwain at gryfhau’r ddealltwriaeth o ddefod Derbyn.
“Fydd hyn bellach ddim yn rhoi mynediad i Gymun, ond bydd yn cymryd ei briod le yng ngweithredoedd sacramentaidd yr Eglwys fel sianel o ras Duw, gan ategu lle disgyblion ym mrawdoliaeth yr Eglwys a’u comisiynu ar gyfer gwasanaeth yn yr Eglwys a’r byd.”
Gellir darllen llythyr bugeiliol yr Esgobion a nodiadau canllaw ar gyfer eglwysi a chynulleidfaoedd yma: http://www.churchinwales.org.uk/faith/believe/admission-to-holy-communion-pastoral-letter/