Mwy o Newyddion
Dod â’n coedwigoedd hynafol yn ôl o’r dibyn
Fel rhan o waith Coed Cadw (Woodland Trust) i adfer coetir hynafol, mae arbenigwyr yn dod at ei gilydd yn Llanelwedd ar 13 Hydref i drafod rhai o’r heriau allweddol sy’n ymwneud ag adfer y coedlannau, i gyfnewid syniadau ar y ffordd orau o wneud hyn ac i edrych ar enghreifftiau llwyddiannus o’r gwaith hwn.
Ac estynnir croeso i bawb sy’n ymwneud ag adfer coetir hynafol, boed fel tirfeddiannwr neu fel rhywun sy’n ymgymryd â’r gwaith neu’n llunio polisi am hyn.
Gyda chefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, mae Coed Cadw (Woodland Trust) yn gweithio i gefnogi ac annog tirfeddianwyr i adfer y safleoedd hyn a hynny trwy ei Brosiect Adfer Coetir Hynafol.
Mae coetir hynafol yn gorchuddio llai na pump y cant o dirwedd Cymru. Mae’r safleoedd hyn yn dyddio’n ôl o leiaf 400 o flynyddoedd.
Ond mae dros hanner ohonynt, 34,000 ha, wedi cael ei blannu â choed estron, conwydd yn bennaf.
Ond mae’r coed hyn yn mygu tyfiant blodau gwyllt oherwydd y cysgod trwchus maen nhw’n daflu.
Ac os na chaiff y safleoedd hyn eu rheoli mewn modd gofalus fe fydd nodweddion pwysig o goetir hynafol yn dirywio ac yn diflannu.
Mae Laura Shewring, Rheolwr Adfer Coetir Hynafol Coed Cadw yng Nghymru yn egluro pa mor frys yw’r dasg: “Mae llawer o’r coedwigoedd conwydd hyn wedi cyrraedd aeddfedrwydd ac yn barod i’w cynaeafu, felly.
"Os cân nhw eu hailstocio gyda rhagor o goed conwydd, fe fydd y cyfle i adfer y coedwigoedd hynafol hyn wedi diflannu.
"Rydym yn awyddus i ddysgu mwy am brofiadau arbenigwyr yn y maes, er mwyn llywio’n gwaith yn cynghori perchnogion coetiroedd i ymgymryd â gwaith ymarferol ar eu safleoedd eu hunain.”
Un o’r rhai sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y Prosiect Adfer Coed Cadw yw Nick Burton, perchennog Coed Mitchen ger Llanfair Caereinion ym Mhowys.
Prynodd Nick y safle 11 ha gyda’r bwriad i’w adfer i’w hen ogoniant.
Mae e’n defnyddio ei fusnes torri a thrin coed â cheffyl i dynnu’r conwydd a gwympwyd allan i i ddod â’r coed yn ôl o dan reolaeth gynaliadwy.
Gyda chymorth Swyddog Prosiect Adfer Coetir Hynafol Adfer Alastair Hotchkiss, mae e wedi cynhyrchu incwm eisoes trwy werthu rhai llwythi 25 tunnell o bren i gontractwr ffensio lleol.
Mae hefyd yn gobeithio, wrth i’r gwaith adfer fynd yn ei flaen, y bydd adar fel telor y coed, y gwybedog brith a’r tingoch yn symud i’r goedlan ac yn bridio yna.
Mae’r rhywogaethau hyn yn defnyddio coedlan dderw gyfagos yn barod.
Mae’n dweud: “Mae gwaith Coed Cadw wedi gwneud fwy a mwy o argraff arnaf yn ystod yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, yn fwyaf diweddar yn rhinwedd y ffaith fy mod yn berchen ar goetir, ble’r wyf wedi derbyn help a chyngor gwerthfawr y tu hwnt gan un o Swyddogion Adfer Coetir Hynafol.”
Mae Cynhadledd Adfer Coetir Hynafol Cymru ar agor i bawb sy’n ymwneud ag adfer coetir hynafol, boed fel tirfeddiannwyr neu fel pobl sy’n ymgymryd â’r gwaith neu’n llunio polisi am hyn.
Mae’n rhad ac am ddim i’w fynychu a gall y rhai sydd â diddordeb gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yn www.woodlandtrust.org.uk/wales neu drwy gysylltu â Laura Shewring ar 0343 7705533 neu laurashewring@woodlandtrust.org.uk
Llun: Nick Burton, perchenog Coed Mitchen ger Llanfair Caereinion ym Mhowys