Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Hydref 2016

Arweinydd Plaid yn beirniadu'r Torïaid am gadw at lymder gwrthgynhyrchiol

Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi ymateb i araith y Canghellor Phillip Hammond drwy feirniadu'r Ceidwadwyr am gadw at lymder gwrthgynhyrchiol er gwaetha'r effaith cymdeithasol niweidiol.

Nododd Leanne Wood fod Plaid Cymru wedi cefnogi rhaglen o fuddsoddi mewn isadeiledd i greu swyddi a thwf ers y cwymp ariannol, gan gyfeirio at gynlluniau ei phlaid ar gyfer Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol a gyhoeddir heddiw.

Beirniadodd hi hefyd safonau dwbl y Ceidwadwyr wrth iddynt honni nad oes arian i gyllido gwasanaethau cyhoeddus yn iawn tra'n gwastraffu biliynau ar adnewyddu arfau niwclear Trident.

Dywedodd Leanne Wood: "Ers y cwymp ariannol yn 2008, mae Plaid Cymru wedi dadlau fod y toriadau enfawr sydd ynghlwm a llymder yn wrthgynhyrchiol.

"Mae'r toriadau hynny wedi arwain at gau cyfleusterau a cholli gwasanaethau lleol hanfodol mewn gormod o gymunedau.

"Mae ein hamgylchedd lleol wedi ei ddifrodi hefyd ac mae nifer o bobl wedi eu dal mewn yn wynebu cyflogau isel a chyfleoedd prin.

"Mae'r ffaith fod y Canghellor heddiw wedi amddifadu targedau ei ragflaenydd yn dangos mai dewis ideolegol oedd llymder, nid rhywbeth angenrheidiol, ar hyd yr adeg.

"Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Geidwadol San Steffan yn benderfynol o dorri'n ddyfnach. Ni all ein sector cyhoeddus gymryd mwy o hyn.

"Pam ddylai ein staff yn y Gwasanaeth Iechyd orfod gweithio gydag adnoddau cynyddol brin tra bod y gyllideb i adnewyddu Trident yn tyfu drwy'r amser?

"Pam ddylai gweithwyr cyffredin wynebu cyflogau isel tra bod biliynau'n cael eu colli yn sgil osgoi treth bob blwyddyn?

"Mae Plaid Cymru wedi mynnu o'r cychwyn mai cynyddu buddsoddiad mewn isadeiledd yw'r ffordd fwyaf uniongyrchol a chyfrifol o greu swyddi a sicrhau twf economaidd. heddiw, rydym yn cyhoeddi ein cynlluniau i greu Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol a fyddai'n sicrhau gwelliannau sylweddol i ysgolion, ysbytai, ffyrdd a rheilffyrdd ledled Cymru wrth roi hwb i'r economi.

"Yn wahanol i'r Ceidwadwyr, credai Plaid Cymru y gall tegwch drwy daclo anghydraddoldeb fynd law yn llaw gyda ffyniant economaidd. Credwn hefyd na ddylai pobl gael eu gorfodi i dalu'r pris am gamgymeriadau'r elit ariannol."

 

Rhannu |