Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Hydref 2016

Cefnogi ymgyrch #CaruLlyfrgelloedd

GYDA thros hanner miliwn o fenthycwyr gweithredol ar hyd a lled Cymru a 13.6 miliwn o ymweliadau â llyfrgelloedd cyhoeddus yn 2014-15, mae’n amlwg fod pobl Cymru yn caru eu llyfrgelloedd!

Ym mis Hydref eleni, bydd llyfrgelloedd ledled Cymru yn cymryd rhan yn #CaruLlyfrgelloedd – sef ymgyrch sy’n ceisio tynnu sylw at y gwasanaethau gwych y mae llyfrgelloedd Cymru yn eu cynnig ac annog defnyddwyr llyfrgelloedd i ddod â’u ffrindiau a’u teuluoedd draw i ddarganfod yr hyn sydd ar gael am ddim yn eu llyfrgell leol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates:  “Rwy’n falch o gefnogi ymgyrch #CaruLlyfrgelloedd sy’n cael ei chynnal ledled Cymru.

“Mae llyfrgelloedd yn darparu diwylliant, gwybodaeth a dysg mewn sawl fformat ac i amrywiaeth eang o bobl.

“Beth bynnag fo’ch oed neu ddiddordeb, bydd gan lyfrgelloedd rywbeth o fewn eu muriau neu adnoddau ar lein ar eich cyfer chi, yn ogystal â staff gwych i’ch helpu i ddod o hyd i beth bynnag rydych yn chwilio amdano.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n galed i gefnogi seilwaith gwasanaethau llyfrgelloedd yng Nghymru, gan gynorthwyo i ailwampio ac adleoli adeiladau llyfrgelloedd ac ehangu nifer y gwasanaethau sydd ar gael ar lein fel bod pawb yn gallu mwynhau ac elwa ar y llu o wasanaethau sydd ar gael.”

Bydd cannoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal drwy gydol y mis – lawer ohonyn nhw’n digwydd yn rheolaidd a thrwy ddod â nhw at ei gilydd dan faner #CaruLlyfrgelloedd y gobaith yw y bydd mwy o bobl yn dod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn eu cymuned.

Gallwch chwilio am y rhestr o ddigwyddiadau ar https://llyfrgelloedd.cymru/events-welsh/ neu ewch draw i’ch llyfrgell leol i gael gwybod mwy.

Dyma rai o’r digwyddiadau sydd wedi’u trefnu hyd yma:

  • 6 Hydref    Oedolion yn lliwio yng Nghastell-nedd rhwng 2 – 4pm
  • 12 Hydref  Grŵp Darllen yng Nghasnewydd rhwng 11am  – 12.30pm
  • 13 Hydref  Grŵp Gwau Rainbow Knitters yng Nghastell-nedd rhwng 10am – 12pm

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd llyfrgelloedd hefyd yn arddangos eu gwasanaethau llyfrgell ddigidol.

Ar gyfer darllenwyr brwd mae dros 11 miliwn o lyfrau, 25,000 o e-lyfrau a thros 4,000 o e-lyfrau llafar gyda theitlau addas i blant, yr arddegau ac oedolion – yr union beth pan ydych allan o’r tŷ.

Ac os ydych yn gwario mwy na ddylech chi ar gylchgronau – beth am gael golwg ar ein casgliad o dros 200 o’r prif gylchgronau gan gynnwys teitlau’r BBC, cyhoeddiadau iechyd a ffitrwydd, cylchgronau hel clecs – beth bynnag yw eich hobi, mae’n debygol iawn y byddwch yn dod o hyd i rywbeth sy’n berthnasol i chi a gallwch lawrlwytho’r cyfan am ddim.

Cewch wybod mwy yma: https://llyfrgelloedd.cymru/my-digital-library/

Os ydych yn ddarllenydd brwd neu’n ddeinosor digidol, bydd eich llyfrgell yn gallu cynnig llu o wasanaethau newydd ar lein, a llawer ohonynt ar gael 24/7 – gallwch hyd yn oed ymuno ar lein am ddim.
Yr hashnod Cymraeg yw #CaruLlyfrgelloedd

Rhannu |