Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Hydref 2016

Ni fydd yr oedi gyda’r ymchwiliad cyhoeddus yn cael effaith ar ddydiad cwblhau prosiect yr M4

Ni fydd yr oedi cyn dechrau’r ymchwiliad cyhoeddus ar Brosiect arfaethedig ar gyfer Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, a achoswyd o ganlyniad i weithredu gan Lywodraeth Prydain, yn cael effaith ar ddyddiad cwblhau y prosiect yn 2021, addawodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith heddiw.

Mae swyddogion Llywodraeth Prydain yn yr Adran Drafnidiaeth, wedi cyflwyno dull newydd o gynnal eu rhagolygon twf newydd, newid annisgwyl nad oeddent wedi ei rannu ymlaen llaw â Llywodraeth Cymru, sydd wedi golygu bod oedi cyn dechrau’r ymchwiliad.

Roedd yr ymchwiliad cyhoeddus i ddechrau ar 1 Tachwedd, ond mae’r newidiadau a wnaethpwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn golygu na fydd yr ymchwiliad yn dechrau tan y flwyddyn newydd, gan roi amser i ystyried y data newydd.

Bydd yr ymchwiliad, oedd i barhau am oddeutu pum mis, bellach yn dechrau ar 31 Mawrth 2017.  Bydd yn edrych ar bob agwedd ar Brosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac yn ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf fwyaf cywir, yn ogystal â phob awgrym arall a ddaw.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr Economi a’r Seilwaith: “Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi nodi eu bod am weld prosiect yr M4 yn dechrau cyn gynted â phosib, felly mae’n siom fawr inni fod yr Adran Drafnidiaeth wedi dewis cysylltu â ni dim ond tri diwrnod cyn i’r newidiadau hyn i’r rhagolygon traffig ddod i rym, gan ein gorfodi,  yn anffodus, i oedi cyn dechrau yr ymchwiliad cyhoeddus.

“Wrth inni wthio ein cynlluniau ymlaen ar gyfer y Metro i ogledd a de Cymru, mae angen ateb i’r problemau hirdymor sy’n parhau gyda’r M4 o amgylch Casnewydd, sy’n cynnig system drafnidiaeth hirdymor, integredig a chynaliadwy.  

“Mae asesiadau yn nodi mai ein Prosiect arfaethedig ar gyfer yr M4 yw’r unig ateb rhesymol, ond mae’n bwysig i’r cynigion fod yn destun craffu manwl, mewn modd trylowy ac agored mewn ymchwiliad, a’n bod yn profi’r prosiect yng ngoleuni’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael i sicrhau ein bod yn rhoi’r dewis iawn i bobl Cymru.

“Mae’n hollbwysig ein bod ni, ac eraill sy’n dymuno cyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad cyhoeddus, bellach yn treulio amser yn adolygu y ffigurau newydd hyn gan yr Adran Drafnidiaeth cyn i’r ymchwiliad ddechrau.

“Rydym wedi ymrwymo’n bendant i ddarparu ateb cynaliadwy, hirdymor i’r problemau traffig cronig ar y rhan hwn o’r M4, ac rwyf wedi derbyn sicrwydd, ar yr amod y bydd yr ymchwiliad yn cymeradwyo hyn, y bydd Prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn dal i gael ei gwblhau yn 2021.”  

 

Rhannu |