Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Hydref 2016

Craig Elvis yn cyrraedd cartref newydd yn New Jersey

Mae darlun o Graig Elvis  yn Eisteddfa Gurig yn y Canolbarth, nawr wedi cyrraedd cartref Mary Timmer yn New Jersey, diolch i Ninnau papur bro Cymry Gogledd America.

Cafodd y  darlun, o waith yr arlunydd o Geredigion Wynne Melville Jones, le amlwg yn y rhifyn yr haf o Ninnau gyda chyfle i un o’r darllenwyr i ennill print cyfyngedig o’r darlun gwreiddiol.

Cyhoeddwyd enw’r enillydd, Mary Timmer, yng  Ngŵyl Cymry Gogledd America (Y Gymanfa Ganu gynt) a gynhaliwyd eleni yn Calgary, Alberta ar ddechrau Medi.

Daw Mary Timmer o linach Cymreig ac mae’n weithgar ac yn gefnogol iawn i waith Cymdeithas Cymry Gogledd America ac yn mynychu’r Ŵyl yn flynyddol.

Ganwyd ei thad Glyn Lloyd Roberts i un o deuluoedd Cymraeg Lerpwl  gyda’i thaid yn hannu o’r Felinheli a’i nain o South Beach, Pwllheli.

Brawd ei thad oedd yr Henadur Hywel Heulyn Roberts, Cadeirydd cyntaf Cyngor Sir Dyfed.

Dywedodd Mary ei bod wedi ei phlesio’n fawr gyda’r wobr.

“Rwyf ar ben fy nigon ac roedd clywed fy mod wedi ennill y llun o Graig adnabyddus Elvis, yn yr Ŵyl fawr yn Calgary yn sypreis ac yn gwneud yr Ŵyl eleni yn un sbeshal," meddai.

“Fe fu’r llun ar daith hirfaith  o fryniau Pumlumon ar draws Môr yr Iwerydd,  yna i Calgary, wedyn drwy’r Canadian Rockies i Victoria ac yna nôl i New Jersey!”

Dywedodd cefnither Mary, Mair Heulyn o Synod, Ceredigion bod ei pherthynas yn enillydd teilwng o’r wobr.

“Mae hi’n falch iawn o’i thras Cymreig ac mae’n cymryd diddordeb mawr yn hanes y teulu ac yn ymweld â Chymru  ac mae’n mynychu’r Ŵyl Gymreig yn America yn gyson.

"Mae’r llun yn mynd i gartref lle y bydd yn cael ei fwynhau a’i werthfawrogi.”

Cyd-ddigwyddiad diddorol oedd bod chwaer Mary, Virginia a’i gŵr Jeff o Delaware wedi ymweld â Wynne Melville Jones yn ei gartref yn Llanfihangel Genau’r Glyn yn ystod mis Gorffennaf eleni.

Meddai Wynne: “Doeddwn ni erioed wedi eu cyfarfod nhw o’r blaen  ac  roedden nhw yn dangos didddordeb yn fy lluniau.

"Soniais fy mod yn cydweithio gyda Chymdeithas Cymry Gogledd America trwy Ninnau a dangosais y llun o Graig Elvis  gan ddweud bod y llun yn cael ei gyflwyno yn yr Ŵyl fawr yn Calgary ym mis Medi.

“Mae’r byd yn fach ac  fe ddaeth y wobr yn sioc fawr i’r teulu."

Ym mis Mai eleni cyflwynwyd print o’r darlun gwreiddiol i Graceland, Memphis, Tennessee, hen gartref Elvis, sy bellach yn archif ac yn amgueddfa sy’n denu degau o filoedd o ymwelwyr yn flynyddol.

Mae’r darlun a beintiwyd yn wreiddiol  ar gyfer arddangosfa yn Oriel Rhiannon Tregaron, yn gynhrarach eleni, wedi ennyn cryn ddiddordeb yng Nghymru a thu hwnt ac mae’r stori y tu ôl i’r llun wedi cael sylw y tu hwnt i Gymru ar y cyfryngau rhyngwladol  ac ar y rhwydweithiau cymdeithasol.

Un noson,  fe aeth dau lanc ifanc allan yn y gwyll i lethrau Pumlumon  a phaentio’r enw ELLIS (camsillafiad o ELIS) ar graig wrth ymyl Eisteddfa Gurig er mwyn cefnogi Islwyn Ffowc Elis, ymgeisydd Plaid Cymru mewn is-etholiad yn Sir Drefaldwyn yn 1962.

Yn fuan wedi’r etholiad newidwyd ELLIS  i ELVIS gan berson anhysbys.

Mae’r enw ar y graig wedi goroesi ers dros hanner canrif ac mae’n cael ei ystyried bellach yn safle iconic ac yn deyrnged cenedlaethol i Frenin y Roc a Rol ar ran Gwlad y Gân.

Dywedodd Wynne Melville Jones ei fod, fel llawer o bobl eraill,  wedi teithio heibio’r graig lawer lawer gwaith a’i fod yn ei ystyried fel carreg filltir wrth deithio adre i Geredigion a bod y  ddau berson sy’n gysylltiedig â’r graig gael cryn ddylanwad arno

“Bu Elvis yn rhan allweddol o’m diwylliant pan oeddwn yn fy arddegau a chefais y fraint o ddod i adnabod Islwyn Ffowc Elis yn dda fel darlithydd i mi pan oeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod yng Nghaerfyrddin.

“Mae gen i deimlad bod Elis yn ddigon hapus i fod yn rhannu yr un llwyfan ag Elvis.

“Rwyn falch iawn o’r cyfle i gael cydweithio gyda Ninnau a Chymdeithas Cymry Gogledd America sy’n anelu at gyflawni gwaith pwysig yn ceisio creu cyswllt cyson ymlith y  gymuned Gymraeg alltud.

“Gobeithio bod y llun wedi bod yn gymorth  tuag at bontio ymhellach rhwng Cymry Gogledd America a’r henwlad,” meddai Wynne

Cafodd y llun gwreiddiol ei werthu i brynwr preifat yn yr arddangosfa yn Nhregaron.

Ninnau ac Y Drych yw papur bro Cymry Gogledd America.

Yn 2013 unwyd Ninnau gyda phapur newydd Cymreig hynaf yr Americas Y Drych.

Bellach mae’r ddau yn un ac yn darparu gwasanaeth cyflawn i’r gymuned Gymreig yng Ngogledd America.

Mae Ninnau ac Y Drych  yn ymrwymedig i ddiogelu ac i gyfoethogi bwrlwm bywyd y gymuned Gymreig yng Ngogledd America.

Amcangyfrifir bod mwy na 2 filiwn o bobol o dras Cymreig yn yr Unol Daleithiau a Chanada.

Llun: Mary Timmer gyda’r darlun o Graig Elvis

Rhannu |