Mwy o Newyddion
Pum mlynedd ers codi tâl o 5c am fagiau siopa
Mae Cymru yn dathlu pum mlynedd ers cyflwyno cynllun arloesol Llywodraeth Cymru o godi Tâl am Fagiau Siopa Untro.
Ar 1 Hydref 2011 Cymru oedd y wlad gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno isafswm tâl o 5c am bob bag siopa untro.
Yn y bum mlynedd ers hynny, mae’r polisi wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y defnydd o’r mathau yma o fagiau, a mwy o gefnogaeth ymysg cwsmeriaid i’r tâl.
Yn dilyn y llwyddiant hwn, mae gwledydd eraill ledled Prydain wedi mabwysiadu polisïau tebyg.
Dangosodd astudiaeth diweddar gan Brifysgol Caerdydd:
- O’r 1,143 o siopwyr oedd yn gadael pedair archfarchnad yng Nghaerdydd, dim ond 14% oedd yn cario eu nwyddau mewn bagiau siopa untro (o gymharu â 57% yn defnyddio bagiau am oes).
- Dim ond canran bychan o’r siopwyr a gafodd eu harolygu yng Nghymru ddywedodd eu bod bellach “yn aml/bob tro” yn prynu bagiau siopa untro wrth wneud eu prif siopa bwyd.
- Mae’r gefnogaeth i’r tâl yng Nghymru wedi cynyddu o 75% i 80% dros gyfnod yr astudiaeth.
Roedd arolwg Llywodraeth Cymru o’r tâl, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, hefyd yn dangos manteision amgylcheddol positif y tâl gan gynnwys:
- Bod dwy ran o dair (66%) o’r rhai a arolygwyd yn cytunuo â’r datganiad “mae’r tâl wedi helpu i leihau sbwriel yn ardal fy awdurdod lleol”.
- Oherwydd y gostyngiad sylweddol yn y galw am fagiau siopa untro, a’r cynnydd yn y galw am y mathau o fagiau y gellir eu defnyddio eto (plastig neu ddefnydd), amcangyfrifir bod rhwng £0.9 miliwn a £1.3 miliwn wedi ei godi ar gyfer y cyfnod Hydref 2011– Ionawr 2015.
Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: “Rydym yn falch o fod y wlad gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno tâl bychan am ddefnyddio bagiau siopa untro.
"Cyflwynwyd y polisi gyda’r bwriad o leihau sbwriel, gwella ein cymunedau a dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr.
"Rwy’n credu y gall pob un ohonom gytuno ei fod wedi bod yn llwyddiant mawr.
“Mae hwn, yn ogystal â’n cyfraddau ail-gylchu, yn faes y mae Cymru yn arwain ynddo.
"Wrth gyflwyno’r tâl yn 2011, roeddem yn arloesi gyda pholisi oedd â manteision niferus, sydd bellach wedi ei groesawu ledled Prydain.
“Rydym yn edrych ar sut y gallwn ychwanegu at lwyddiant y tâl.
"Mae pwerau newydd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn golygu y gellir gweld datblygiadau pellach fel bod Cymru yn arwain ar ailgylchu ac ail-ddefnyddio ledled Ewrop."
Mae Cadw Cymru’n Daclus wedi croesawu’r polisi hefyd.
Meddai’r Prif Weithredwr, Lesley Jones: “Dwi’n falch iawn bod Cymru yn arwain yn y math yma o newid ymddygiad – mae’n hollbwysig ein bod yn gallu newid ein ffyrdd i helpu i wella’r amgylchedd a’r cymunedau yr ydym yn byw ynddyn nhw.
"Allwn ni ddim parhau i fyw mewn cymdeithas sy’n cael gwared ar bethau, felly mae’n hollbwysig fod pawb yn sylweddoli yr effaith negyddol y mae plastig a sbwriel arall yn ei gael ar ein cymunedau.
"Gyda’r gymysgedd iawn o addysg, gorfodi, codi ymwybyddiaeth a chydweithio – gall pob un ohono ni gyfrannu at Gymru fwy diogel, lanach a iachach nawr ac i’r dyfodol.”