Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Hydref 2016

Gallai Comsiwin Seilwaith Plaid Cymru greu “effeithiau economaidd a chymdeithasol”

Bydd Plaid Cymru heddiw yn datgelu manylion eu cynigion am Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (NICW - National Infrastructure Commission Wales).

Canfu’r papur polisi a gaiff ei lansio gan grŵp Plaid Cymru fod gweithredu eu cynlluniau am NICW “yn cynnig cyfle i Lywodraeth Cymru greu effaith economaidd a chymdeithasol parhaol, er lles tymor hir pobl Cymru.”

Bydd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gyllid a’r Economi Adam Price yn dweud y gallai NICW roi agwedd tymor-hir fwy integredig a strategol at bob ffurf ar ddatblygu seilwaith, a gallai roi hwb sylweddol i lefelau’r cyllido cyfalaf sydd ar gael i’r sector cyhoeddus.

Gallai beri mynediad at gyllid y sector preifat ar sail tecach a mwy effeithlon na modelau eraill, a sefydlu ei hun ar yr un pryd fel canolfan arbenigedd am gaffael seilwaith all gyflwyno swm mawr o  seilwaith economaidd a chymdeithasol sydd yn hanfodol i lwyddiant economaidd y genedl.

Bydd hyn yn ei dro yn rhoi symbyliad economaidd, gan gynwys creu nifer fawr o swyddi ar hyd a lled Cymru yn y diwydiant adeiladu ar cadwyni cyflenwi cysylltiedig.

Cyn y lansio, dywedodd Adam Price: “Mae gan gynlluniau Plaid Cymru ar gyfer Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru botensial i greu manteision economaidd a chymdeithasol i bob rhan o Gymru.

"Ar hyn o bryd, mae gallu Llywodraeth Cymru i fenthyca wedi ei gapio ar £500 miliwn, nad yw’n ddigon o arian ar gyfer rhaglen ar raddfa fawr o ddatblygu seilwaith.

"Ar ben hyn, mae agenda llymder Llywodraeth Geidwadol y DG yn effeithio’n sylweddol ar swm y cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru – yn wir, disgwylir iddo fod draean yn is mewn termau real erbyn by 2020-2021 nag yr oedd yn 2009-10.

“Mae Plaid Cymru yn wastad wedi dweud fod buddsoddiadau cyfalaf yn hanfodol er mwyn tyfu’r economi.

"Yn ogystal â’i effaith ar dwf economaidd ledled Cymru, mae prosiectau seilwaith yn dwyn manteision gwaith ac economaidd uniongyrchol i’r ardal leol.

"A gall prosiectau seilwaith da hefyd gael amrywiaeth o effeithiau cymdeithasol cadarnhol i’r gymuned.

“Dyna pam fod Plaid Cymru wedi edrych ar ffyrdd newydd a chreadigol o ganiatau i Lywodraeth Cymru godi cyfalaf a buddsoddi mewn prosiectau seilwaith pwysig.

"Nid yw tlodi cymharol ein cymunedau yn anorfod – gallwn drawsnewid yr economi.” 

Rhannu |