Mwy o Newyddion
Gwobr am Gyfraniad Arbennig at Ffilm a Theledu i Terry Jones o Monty Python
Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi enillwyr 25ain Gwobrau blynyddol yr Academi Brydeinig yng Nghymru.
Mae’r gwobrau’n anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu yng Nghymru ac wedi dathlu rhai o’r bobl fwyaf dawnus yng Nghymru dros y blynyddoedd.
Cynhaliwyd y seremoni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, a chyflwynydd BBC Radio 1, Huw Stephens, oedd wrth y llyw unwaith eto.
Roedd cyflwynwyr y gwobrau’n cynnwys yr actores Sian Phillips sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Michael Palin a’r actor Robert Pugh.
Enillodd y ffilm ddogfen Mr Calzaghe dair gwobr BAFTA Cymru, ar gyfer Cyflawniad Arbennig mewn Ffilm, Cyfarwyddwr: Ffeithiol (Vaughan Sivell), a Sain.
Enillodd Yr Ymadawiad/The Passing dair gwobr hefyd, ar gyfer Actor (Mark Lewis Jones), Dylunio Cynhyrchiad (Tim Dickel) ac Awdur (Ed Talfan).
Enillodd Tim Rhys Evans: All in the Mind ddwy wobr ar y noson, ar gyfer Rhaglen Ddogfen Unigol a Golygu (Madoc Roberts). Enillodd Hinterland/Y Gwyll ddwy wobr hefyd, ar gyfer Drama Deledu ac Actores (Mali Harries).
Enillodd Doctor Who y categori Effeithiau Arbennig a Gweledol, Teitlau a Graffeg ac enillydd Gwobr Torri Drwodd 2015, sef Clare Sturges, oedd yn fuddugol yn y categori Ffilm Fer ar gyfer My Brief Eternity: Ar Awyr Le.
Yn y categorïau rhaglennu ffeithiol, enillwyd y wobr Cyfres Ffeithiol gan Music for Misfits: The Story of Indie (Siobhan Logue). Enillodd Rondo Media ddwy wobr ar gyfer Les Miserables - Y Daith i'r Llwyfan yn y categori Rhaglen Adloniant ac enillodd Côr Cymru - y Rownd Derfynol y categori Darllediad Byw Awyr Agored.
Will Millard a enillodd y wobr Cyflwynydd ar gyfer Will Millard in Hunters of the South Seas, a BBC Cymru Wales a enillodd y wobr Darllediadau’r Newyddion ar gyfer Argyfwng y Mudwyr a’r wobr Materion Cyfoes ar gyfer Life After April.
Derbynnydd Gwobr Sian Phillips oedd y golurwraig Siân Grigg sydd wedi ennill gwobr BAFTA, ac fe’i cyflwynwyd iddi gan yr actores Sian Phillips a dderbyniodd y Wobr Cyfraniad Arbennig gan BAFTA Cymru yn 2001, ac yr enwodd BAFTA eu hail wobr arbennig er anrhydedd iddi.
Cafodd y cyflwyniad y Wobr ei ragflaenu gan dri llongyfarchiadau fideo o Ioan Gruffudd, cyfarwyddwr Suffragette Sarah Gavron a Leonardo di Caprio.
Dywedodd Di Caprio: "Mae wedi bod yn brofiad anhygoel gweithio gyda ti.
"Ni allaf feddwl am unrhyw un yn y byd sydd yn fwy haeddiannol o’r wobr hon.
"Rwyt ti yn wirioneddol ysbrydoledig ac rwy'n gobeithio gweithio gyda ti am 20 mlynedd arall. "
Daeth y seremoni i ben trwy gyflwyno gwobr BAFTA Cymru ar gyfer Cyfraniad Arbennig at Ffilm a Theledu i aelod Monty Python sydd wedi’i enwebu am wobr BAFTA, Terry Jones.
Cyflwynwyd y wobr iddo gan ei ffrind a chyd-aelod o griw Monty Python, Michael Palin.
Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Wrth i 25ain Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ddod i ben, bu’n gyfle gwych i ddathlu enillwyr eithriadol eleni ac i ni edrych yn ôl trwy’r archifau ar yr amrywiaeth o enillwyr rydym ni wedi’u dathlu dros y blynyddoedd a myfyrio ar sut mae’r diwydiant wedi datblygu ers i BAFTA sefydlu yng Nghymru.
"Edrychwn ymlaen at y 25 mlynedd nesaf o ddathlu doniau yn y wlad hon a gweithio gyda’n holl enwebeion ac enillwyr ar ddigwyddiadau BAFTA Cymru sydd i ddod er mwyn annog ac ysbrydoli pobl ddawnus yng Nghymru i ddatblygu ac ymuno â’n diwydiant bywiog.”
Llun: Terry Jones a Michael Palin (BAFTA/Rex Shutterstock)