Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Medi 2016

S4C yn penodi pennaeth dosbarthu cynnwys S4C

Mae Llion Iwan wedi cael ei benodi i’r swydd newydd, Pennaeth Dosbarthu Cynnwys S4C.

Daw’r penodiad yn dilyn yr ailstrwythuro diweddar yn y sianel ac fe fydd Llion yn cydweithio’n agos gydag Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C, wrth ddatblygu’r strategaeth gynnwys newydd.

Ar hyn o bryd, mae Llion yn Gomisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C ac fe fydd yn parhau yn y swydd hon hyd nes y bydd ei olynydd yn dechrau yn y swydd.

Bydd hysbyseb ar gyfer Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol yn ymddangos yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mi fydd Llion, o Waunfawr, Caernarfon yn arwain y Tîm Creadigol a bydd y gwaith yn golygu y bydd yn treulio mwy o amser yng Nghaerdydd tan adleoli’r pencadlys i Gaerfyrddin yn 2018.

Ar y cyd ag Amanda, fe fydd yn gyfrifol am greu amserlen amrywiol, heriol ac adloniadol traws llwyfan i’r gynulleidfa ac am bryniannau ac edrychiad S4C ar draws pob llwyfan.

Fe fydd hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am holl arlwy newyddion a materion cyfoes S4C ar draws llwyfannau, gan gadeirio trafodaethau gyda’r BBC, yn gwrando ac yn ymateb i sylwadau gan gynhyrchwyr.

Rhannu |