Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Medi 2016

Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2017 ar agor i ymgeiswyr

Mae Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth, wedi cyhoeddi bod y rownd nesaf o Ysgoloriaethau i Awduron ar agor i dderbyn ceisiadau.

Mae’r Ysgoloriaethau, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, yn galluogi awduron o bob genre a chefndir i neilltuo amser ar gyfer ysgrifennu creadigol.

Er 2004, mae Llenyddiaeth Cymru wedi dyfarnu dros £1 miliwn ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan gefnogi 244 o awduron, dyfarnu 292 o Ysgoloriaethau, ac o ganlyniad cynhyrchwyd 111 o lyfrau ac 13 o erthyglau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Ysgoloriaethau 2017 a Mentora 2017 yw 5pm Ddydd Gwener 28 Hydref.

Am ragor o wybodaeth, lluniau, neu i wneud cais am gyfweliad, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / gwasg@llenyddiaethcymru.org

Rhannu |