Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Medi 2016

Ysgol Bro Teifi yn cael ei hagor yn swyddogol gan yr Ysgrifennydd Addysg

Cafodd yr ysgol iaith Gymraeg gymunedol gyntaf yng Nghymru i gael ei hadeiladu yn bwrpasol ar gyfer addysg gynradd ac uwchradd ei hagor yn swyddogol gan Kirsty Williams yn Llandysul ddoe.

Mae’r cysyniad newydd yma ar gyfer addysg yn yr ardal yn ganlyniad o chwe mlynedd o astudiaethau dichonoldeb ac ymgynghoriad gan Rhaglen Addysg ac Ysgolion 21fed Ganrif Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

Wedi’i chynllunio mewn cydweithrediad ag athrawon, disgyblion a chynghorwyr addysg, mae’r cyfleuster newydd sbon yma yn cysylltu pob cyfnod addysg ar un safle, gan ddarparu 60 o lefydd dosbarth derbyn, 360 o lefydd cynradd, a 678 o lefydd uwchradd.

Mae Ysgol Bro Teifi yn deillio o uno ysgol uwchradd Dyffryn Teifi gydag ysgolion cynradd Aberbanc, Coed y Bryn, Pontsian a Llandysul. Bydd Ysgol Bro Teifi yn darparu profiad gwirioneddol 21fed Ganrif ar gyfer disgyblion o bob oedran.

Mae gan yr ysgol ‘adain’ gwahanol, sy’n golygu na fydd yr ysgolion uwchradd a cynradd yn rhannu’r un gofod ar yr un pryd.

Fodd bynnag, bydd y cynllun yn galluogi’r ysgol gyfan i gael mynediad i’r offer a’r cyfleusterau diweddaraf, o gae chwaraeon astro-turf i’r llwyfan, goleuadau, seddau teras a stiwdio drama, ystafell werdd a stiwdio recordio.

Bydd gan y gymuned leol hefyd fynediad i gyfleuster perfformio 450 sedd yr ysgol, cyfleusterau chwaraeon a’r stiwdio recordio.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams: “Mae’n rhy rhwydd i feddwl bod ysgolion heddiw yn gwasanaethu ar gyfer un pwrpas yn unig: system analog, ddeuaidd o ddarpariaeth – athrawon yn dysgu a disgyblion yn cael eu dysgu.

"Mae ysgol integredig o’r fath yma yn debycach i ffôn clyfar. Gall yr ysgol a’r gymuned gysylltu, cydweithio a chreu.

“Yn yr ystyr ehangaf, mae Bro Teifi yn ysgol gymunedol. Mae’r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer disgyblion a’r cyhoedd fel eu gilydd wedi creu ysgol sydd yn groesawgar a rwyf yn falch iawn i gael ei hagor yn swyddogol heddiw.”

Dywedodd y Prifathro, Robert Jenkins: “Fel cymuned yn yr ysgol, rydym yn falch i gymryd perchnogaeth o’r ysgol newydd ac yn ddiolchgar iawn am y buddsoddiad a’r gefnogaeth a ddarparwyd i ni gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

“Bu staff a disgyblion yn greiddiol i’r penderfyniadau a wnaed yn ystod yr ymgynghoriad cynllun buan, ac yn ddiweddarach wrth weithredu’r syniadau hynny ac rydym nawr wrth ein boddau gyda’r canlyniad."

Ychwanegodd: “Mae’n gyfleuster sydd yn wirioneddol flaengar a fydd yn gwella ein gallu i ddarparu ein disgyblion gyda siwrnai o ddysgu integredig.

"Trwy fod o dan yr unto, mae dealltwriaeth ein gilydd o’r cryfderau ac anghenion ar draws y sectorau yn barod wedi gwella, a mae’r manteision o fod yn gallu rhannu adnoddau ffisegol, yn nhermau offer, ac hefyd yn nhermau staffio, hefyd yn cychwyn cyfoethogi profiadau dysgu ein disgyblion.”

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Ellen ap Gwynn: “Rwyf yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth trwy’r Rhaglen Ysgolion ac Addysg ar gyfer yr 21fed Ganrif.

"Heb y gefnogaeth yma, ni fyddai wedi bod yn bosib i’r prosiect yma fod wedi ei wireddu.

"Fel yr ysgol cyntaf o’i fath yng Nghymru, dyma enghraifft o Geredigion yn arwain y ffordd, gan ddarparu ysgol arloesol o’r radd flaenaf i ddiwallu anghenion addysgol modern disgyblion y cylch lleol yn ogystal a chenedlaethau i ddod.

"Mae pob ffydd gen i y bydd Ysgol Bro Teifi yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at y ddarpariaeth addysg ragorol sydd yn cael ei chynnig yng Ngheredigion.”

Rhannu |