Mwy o Newyddion
Gosodiad EPIC Croeso Cymru yn cyrraedd Castell Caerdydd
Mae gosodiad EPIC Croeso Cymru fu’n teithio drwy Gymru dros yr haf bellach wedi cyrraedd Castell Caerdydd.
Oherwydd poblogrwydd y daith mae Caerdydd yn leoliad ychwanegol i’r daith ac fe fydd Epic yn y Castell mewn pryd ar gyfer Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd ddydd Sul 2 Hydref.
Mae’r llythrennau drych enfawr sy’n 4 metr o uchder ac yn 11 metr ar draws, ac sy’n llunio’r gair EPIC yn rhan o ymgyrch farchnata ddiweddaraf Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan antur.
Bu’n ymddangos yn ddisymwth mewn lleoliadau ledled Cymru dros yr haf a bu’n rhan o Gyfres Ddeifio Ryngwladol Red Bull yn Abereiddi.
Bu taith EPIC yn boblogaidd iawn yn ystod yr haf ac mae ymchwil cwsmer diweddaraf Croeso Cymru yn dangos bod defnyddwyr yn meddwl bod y syniad yn feiddgar ac yn arloesol.
Mae’r nifer sydd yn dilyn Croeso Cymru ar gyfryngau cymdeithasol hefyd wedi cynyddu i dros 900,000 yn ystod misoedd yr haf.
Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu ymestyn y daith fel bod mwy o bobl yn cael cyfle i weld EPIC.
""Wrth edrych ymlaen at y penwythnos, bydd Caerdydd unwaith eto yn cynnal Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd/Caerdydd, ble y bydd miloedd o redwyr o bob gallu yn derbyn yr her hon ac yn codi arian ar gyfer elusennau.
"Mae hyn yn dangos yr anturiaethau amrywiol sydd i’w cael yma yng Nghymru wrth i’n Blwyddyn Antur ddod i ben.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: "Fel prif ddinas Cymru, rydym yn falch iawn i groesawu Epic sydd bellach wedi dod yn symbol ar gyfer Blwyddyn Antur Cymru.
"Mae Caerdydd yn croesawu cymaint o ddigwyddiadau mawr sy'n denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd ac mae'r ddinas bellach mewn sefyllfa gadarn ar y map byd-eang.
"Mae'n wych bod yr arwydd yma ar gyfer yr hanner marathon ddydd Sul a bydd yn cael ei arddangos i'r 22 000 o redwyr a fydd yn cychwyn y ras yng Nghastell Caerdydd.
"Rydym yn annog cymaint o bobl a phosib i ymweld â'r arwydd yn ystod y tair wythnos. Rydym yn annog pawb i ddod o hyd i'w epic eu hunain pan yng Nghaerdydd.”
Bydd y gosodiad celf teithiol hwn yn gefndir addas i hunluniau ymwelwyr ac mae wedi’i gynllunio i annog pobl i rannu darluniau a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio hashtag yr ymgyrch #GwladGwlad.
Mae’r daith yn cefnogi ymgyrch integredig sy’n cynnwys Cysylltiadau Cyhoeddus a gweithgarwch arall ar y cyfryngau, gan gynnwys hysbysebu digidol, marchnata drwy ebost a gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithsasol i dargedu teuluoedd ac ymwelwyr yn yr ardaloedd poblog yng ngogledd-orllewin a chanolbarth Lloegr, Swydd Efrog, Llundain a’r de-ddwyrain.
Mae modd gweld yr arwydd Epic wrth y fynedfa i’r castell ac o Heol y Santes Fair. Gall y bobl hynny sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ofyn am Allwedd y Castell sy’n golygu mynediad am ddim am 3 mlynedd. Mae tâl gweinyddol o £5 am bob Allwedd i’r Castell. Bydd EPIC yn y Castell tan 17 Hydref.