Mwy o Newyddion
Ysgrifennydd yr Economi a Phrif Swyddog Gweithredol Tata UK yn trafod ffordd ymlaen i Gymru
Gwnaeth Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, a Phrif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, Bimlendra Jha, gwrdd ddoe i drafod pecyn o gymorth posib gan Lywodraeth Cymru i weithfeydd Tata yng Nghymru.
Gallai'r pecyn gynnwys o bosib mwy o gefnogaeth ar gyfer hyfforddiant, rhaglenni i annog effeithlonrwydd a gwelliannau amgylcheddol, a mwy o ymchwil a datblygu.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ken Skates: "Mae’n amlwg bod Tata Steel yn wynebu problemau mawr, gan gynnwys pensiynau ac ynni, sydd angen cymorth nifer o randdeiliaid i’w datrys.
"Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru.
"Ein pryder mwyaf yw gweithlu Tata Steel a'r cymunedau cysylltiedig, a dyfodol cynaliadwy a hir dymor holl waith Tata Steel yng Nghymru.
"Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i ddiogelu'r diwydiant a'r gwerth sylweddol sy’n dod yn ei sgil yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i economi Cymru.
"Byddwn yn parhau i gefnogi unrhyw strwythur perchnogaeth yn y dyfodol ar gyfer gweithgareddau Tata Steel sy'n cynnig y rhagolygon gorau o ran cynnal swyddi a chynhyrchu dur yn gynaliadwy yma yng Nghymru.
"Roedd cyfarfod heddiw yn rhan o gyfres o drafodaethau adeiladol yr ydym wedi eu cynnal gyda Tata Steel yn ystod y mis diwethaf.
"Rydym yn symud ymlaen gyda’r pecyn cymorth rydym yn ei gynnig ac yn parhau i ymrwymo i weithio'n agos â Tata Steel ac i wneud popeth y gallwn i ddiogelu dyfodol hir dymor i’r diwydiant dur yng Nghymru.
"Fel rhan o'r trafodaethau hyn, ac fel sy’n arferol ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi, rydym hefyd yn trafod yr amodau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu mynnu."
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, Bimlendra Jha: "Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw ei haddewid i gefnogi cynlluniau hyfforddiant, arloesedd ac amgylcheddol ar gyfer gweithrediadau Tata Steel UK yng Nghymru.
"Cawsom sgwrs adeiladol i drafod manylion meysydd posib o gefnogaeth.
"O ystyried yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yn gyffredinol, rydym yn rhannu'r un ffocws sef i roi gweithfeydd Cymru ar lwybr mwy cystadleuol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
Yn dilyn ymweliadau Ysgrifennydd y Cabinet â safleoedd Tata Steel ym Mhort Talbot, Trostre, Llanwern a Shotton yn gynharach yn yr haf, mae cynnydd sylweddol wedi digwydd i ddatblygu pecyn cymorth posib ar gyfer gweithfeydd Tata yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau a fydd yn caniatáu i weithfeydd Cymru fod yn fwy effeithlon ac i wrthsefyll cystadleuaeth fyd-eang. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys prosiect mawr i wella'r amgylchedd ym Mhort Talbot, buddsoddiad posib mewn cynnyrch premiwm, cynaliadwy yn Shotton a phecyn hyfforddiant posib i weithwyr yn holl safleoedd Tata Steel yng Nghymru.
Disgwylir cynnydd sylweddol yn y buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu i gynnyrch newydd ym Mhort Talbot hefyd a fyddai, o’i sicrhau, yn dangos pleidlais bwysig o hyder yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, ac yn darparu'r arloesedd sydd mor hanfodol i lwyddiant y diwydiant.