Mwy o Newyddion
Cynllun cyffrous i ysgogi dychymyg er cof am y bardd Emrys Roberts a’i wraig, Megan
Mae canolfan celfyddydau ac arloesi Pontio yn cydweithio â dau o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru Ifor ap Glyn a Mererid Hopwood ac ysgolion lleol ar brosiect cyfoes a chyffrous er cof am Emrys Roberts, y cyn Archdderwydd a enillodd y gadair Genedlaethol ddwywaith gyda’i awdlau ‘Y Chwarelwr’ a ‘Y Gwyddonydd’ a’i wraig, Megan.
Bydd yr awdlau, ynghyd â cherddi newydd wedi eu creu gan bum ysgol leol a Sgwad Sgwennu Gwynedd, yn cael eu hadrodd fel rhan o dirlun digidol o sain a delweddau ar Caban, y darn celf cyhoeddus yn nhirlun Pontio sydd yn ysgogi’r dychmyg ac sy’n dwyn ysbrydoliaeth o hanes Prifysgol Bangor a’r cyfraniad wnaethpwyd i’w sefydlu gan y chwarelwyr.
Daeth y prosiect i fodolaeth diolch i gyfraniad gan deulu Emrys a Megan Roberts, oedd yn awyddus i goffáu’r bard a’i wraig mewn modd priodol oedd yn dod â’r celfyddydau yn fyw mewn modd dyfeisgar gan weithio gyda phobl ifanc, gan ystyried i’r bardd fod yn brifathro yn Ysgol y Banw am 15 mlynedd a’i wraig, Megan yn brifathrawes yn Ysgol Pontrobert am dros 20 mlynedd.
Cynhelir y prosiect dan adain BLAS, cynllun cyfranogol Pontio i bobl ifanc.
Dywedodd Dylan Roberts, ar ran y teulu, “Mi fysa’n rhieni wedi bod wrth eu bodd yn gweld pobl ifanc yn mwynhau eu hunain yn dysgu, ac yn cael eu hysbrydoli, am farddoniaeth. Mae hi’n braf iawn gweld gwaith arloesol ein tad yn cael ei drafod efo pobl ifanc."
Fel rhan o’r prosiect, mae’r bardd Mererid Hopwood wedi ymweld â Ysgol y Banw, Llangadfan, ble bu Emrys Roberts yn brifathro o 1971 tan ei ymddeoliad yn 1986, i drafod yr awdlau a gweithio ar gerddi newydd.
Mae’r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn hefyd yn cydweithio ag ysgolion lleol ardal Bangor a’r cyffiniau Ysgol Tryfan, Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Friars ac Ysgol Glancegin ynghyd â Sgwad Sgwennu Gwynedd i greu cerddi newydd wedi eu hysbrydoli gan waith Emrys Roberts.
Meddai Ifor ap Glyn: “Mae wedi bod yn braf cael ysgogiad i ailymweld â gwaith Emrys Roberts, yn enwedig ei waith cynganeddol yn y wers rydd.
Hefo’r bobl ifainc, rŷn ni wedi defnyddio rhai o’r cerrig milltir yn hanes Emrys fel man cychwyn ar gyfer datblygu gwaith newydd– ei brofiad fel ifaciwî o Lerpwl, ennill y gadair ddwywaith, cael ei wneud yn archdderwydd ynghyd â themâu ei awdlau buddugol, y Chwarelwr a’r Gwyddonydd
"Dwi’n edrych ymlaen at weld ffrwyth eu llafur yn cael ei rannu yn y modd arloesol yma yn Pontio.”
Bydd y gwaith yn cael ei rannu ar ffurf perfformiad digidol ar Caban yn nhirlun Pontio am 7pm ar ddydd Gwener, 25 Tachwedd.