Mwy o Newyddion
Ymgyrch rheilffordd Traws Link Cymru yn chwilio am aelodau yng ngogledd Cymru i bwyso am ailagor lein Bangor-Porthmadog
Mae ymgyrch rheilffyrdd Gorllewin Cymru Traws Link Cymru yn chwilio am aelodau i ffurfio grŵp gogleddol i bwyso am ailagor y rheilffordd rhwng Bangor ac Afon Wen, ger Porthmadog.
Caewyd y lein o Afon Wen i Fangor i deithwyr yn 1964 lle bu gorsafoedd yn Chwilog, Llangybi, Ynys, Bryncir, Penygroes, Groeslon, Llanwnda, Dinas, Caernarfon, Dinorwig, Treborth, a Phorthaethwy.
Mae Traws Link Cymru yn credu y byddai ailagor y rheilffordd yn fuddsoddiad rhatach ac yn ddewis amgen mwy cynaliadwy i ffordd osgoi Bontnewydd arfaethedig.
Er bod peth datblygiad wedi digwydd ar y lein, mae'n gwbl bosibl i'r rheilffordd gael ei adfer.
Dywedodd llefarydd ar ran Traws Link Cymru: "Rydym yn gweld ailagor y lein oedd yn rhedeg o Fangor i Borthmadog tan y 1960au fel rhan o'r weledigaeth fawreddog o ailgysylltu gogledd a de Cymru ar y cledrau.
"Hyd yn hyn, rydym wedi canolbwyntio ein hegni ar ailagor y lein o Aberystwyth i Gaerfyrddin, ond byddai ail-agor y ddau yn rhoi cyswllt gogledd-de o fewn Cymru a chysylltu pob un o'r wyth o drefi a dinasoedd prifysgol yn y wlad ar y rheilffyrdd.
"Rydym wedi cynnal ymgyrch lwyddiannus iawn hyd yn hyn o Lanbedr Pont Steffan, Ceredigion ac wedi sicrhau astudiaeth gwmpasu gan Lywodraeth Cymru a ddaeth i'r casgliad bod ychydig iawn yn rhwystro ailagor y rheilffordd Aberystwyth-Caerfyrddin gyda 97% o'r gwely trac yn glir gyda chost amcangyfrifedig o £505-750m.
"Mae hyn yn cymharu'n ffafriol iawn â chostau uwch o lawer o adeiladu ffyrdd newydd. Rydym bellach ar ein ffordd i sicrhau astudiaeth ddichonoldeb lawn.
"Er eu bod yn siroedd cyfagos, mae'r pellter rhwng Ceredigion, lle rydym yn cynnal ein cyfarfodydd, a Gwynedd yn rhy helaeth i gynnal cyfarfodydd rheolaidd am lein Bangor-Porthmadog.
"Felly, rydym yn awyddus iawn i bobl yn y gogledd i gymryd rhan yn yr ymgyrch drwy ffurfio ail grŵp. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni drwy e-bostio post@trawslinkcymru.org.uk neu ffoniwch 01570 218 036."
Sefydlwyd Traws Link Cymru ym mis Hydref 2013 yn Llanbedr Pont Steffan ac maent yn ymgyrchu dros adfer rheilffyrdd Aberystwyth-Caerfyrddin a Bangor-Afon Wen a gaewyd i deithwyr yn y 1960au.
Mae'r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth ac mae wedi denu 16,000 o lofnodion, yn ogystal â chefnogaeth 32 o ACau, 3 AS, 47 o gynghorau tref a chymuned, prifysgolion, byrddau iechyd a chynghorau sir yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Mae'r grŵp wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus llwyddiannus yn Llanbedr Pont Steffan, Tregaron, Llanybydder, Llandysul, Aberaeron, Aberystwyth a Chaerfyrddin.