Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Medi 2016

Sian Gwenllian yn gwisgo pinc at ymchwil canser y fron

Dydd Gwener, 21 Hydref, yw’r diwrnod i wisgo pinc! Bob blwyddyn mae diwrnod ‘Wear it Pink’ yn codi £2 filiwn o bunnau at yr elusen Breast Cancer Now, ac mae Sian Gwenllian, AC Plaid Cymru dros Arfon, am wisgo pinc eleni eto, gan annog pawb arall i wneud yr un peth.

Meddai: “Does neb eisiau gorfod meddwl am ganser y fron, ond nod y diwrnod yma yw i godi digon o arian i gyllido ymchwil a allai olygu yn y pendraw na fyddai unrhyw ferch yn marw o’r clefyd erbyn 2050.

“Mae’n fater ddifrifol iawn, ond mae’r diwrnod yma hefyd yn gyfle i gael ychydig o hwyl gyda ffrindiau, teulu neu gyd-weithwyr, ac mae’n ffordd hawdd a hwyliog i gyfrannu at rywbeth gwirioneddol bwysig, a allai gael effaith gadarhaol ar gymaint o ferched a’u teuluoedd.”

Am fwy o fanylion ewch i http://wearitpink.org/

Rhannu |