Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Medi 2016

Plaid yn lleisio pryderon dros gyhoeddiad am ‘Cymru Hanesyddol’

Mae Plaid Cymru heddiw wedi lleisio pryderon am gynlluniau’r llywodraeth Lafur i uno sefydliadau megis Cadw ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru trwy greu corff newydd o’r enw ‘Cymru Hanesyddol’.

Mae llefarydd y Blaid ar Ddiwylliant, Dr. Dai Lloyd AC wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fygwth annibyniaeth y sefydliad trwy ffurfio corff newydd i redeg yr holl weithgareddau masnachol.

Cyhuddodd Lywodraeth Cymru hefyd o fethu â chynnal trafodaeth agored a thryloyw gyda’r sector ac Aelodau Cynulliad, cyn gwneud y penderfyniad i greu Cymru Hanesyddol.

Yn ystod sesiwn lawn dydd Mawrth yn y Senedd, gofynnodd Dr. Lloyd i Lywodraeth Cymru wneud amser am ddadl lawn ar y mater.

Meddai: “Am ddegawdau, roedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn ymgorfforiad o Gymru fel cenedl, a rhaid sicrhau ei statws fel corff annibynnol at y dyfodol.

"Cred Plaid Cymru y dylai corff newydd aros yn annibynnol ar y llywodraeth er mwyn cyflawni ei swyddogaeth.

“Mae gennyf bryderon hefyd am y diffyg ymgysylltu a thrafodaeth gyda’r sector ynghylch y penderfyniad polisi hwn.

"Sôn yr ydym yma am sefydliadau cenedlaethol allweddol a buaswn wedi disgwyl llawer mwy o ddeialog cyn unrhyw gyhoeddiad polisi.

“Dywed Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad yn seiliedig ar ymrwymiad adeg etholiad y Cynulliad, ond does dim sôn am hyn yn y maniffesto a gyhoeddodd Llafur; yr unig lle y gellid ei weld oedd mewn atodiad arlein i’r maniffesto.

"Allwn ni ddim sefyll a gwneud dim a ninnau heb wybod union faint y newidiadau a ragwelir gan y Gweinidog.

"Mae angen i’r llywodraeth ddweud yn union beth yw eu cynlluniau.

“Y trydydd pryder yw y gallai uno sefydliadau megis Cadw ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru arwain at sefyllfa lle gofynnir i bobl dalu i ymweld â rhai safleoedd lle mae mynediad am ddim ar hyn o bryd.

"Er y buaswn yn cefnogi darparu mwy o bwerau i’r Amgueddfa gynnal ei mentrau masnachol ei hun, mae’n egwyddor bwysig a sefydledig y gall pobl fynd i safleoedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru am ddim, a dylid gwarchod yr egwyddor hwn.

“Mae’n hanfodol i Lywodraeth Cymru roi cyfle i Aelodau Cynulliad drafod dyfodol ein sefydliadau cenedlaethol allweddol cyn gweithredu unrhyw newidiadau arwyddocaol.” 

Rhannu |