Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Medi 2016

Cynghori merched sy'n ystyried beichiogi i gael brechlynnau MMR

Fel rhan o'u cynllunio ar gyfer beichiogrwydd iach, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog merched i wirio a ydynt wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR. Os nad ydynt, dylent gael y ddau ddos cyn ceisio beichiogi.

Mae'r brechlyn MMR, y profwyd ei fod yn ddiogel ac yn effeithiol, yn diogelu rhag rwbela, clwy'r pennau a'r frech goch. Fodd bynnag, ni ellir ei roi i ferched beichiog.

Hyd yma, cynigiwyd prawf gwaed i ferched wirio bod ganddynt imiwnedd i rwbela – sy'n cael ei adnabod fel brech goch yr Almaen hefyd. Os nad oedd ganddynt imiwnedd, cynigiwyd y brechlyn MMR iddynt ar ôl iddynt gael eu babi.

Fodd bynnag, yn sgil llwyddiant y rhaglen imiwneiddio MMR wrth ddileu rwbela bron yn llwyr, mae'r prawf gwaed yn dod i ben ar 3 Hydref 2016 yng Nghymru.

Gwnaed y penderfyniad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.  Mae sgrinio rwbela cynenedigol wedi dod i ben yn Lloegr a'r Alban hefyd.

Dywedodd Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae rwbela, neu brech goch yr Almaen, yn haint feirws ac mae'n lledaenu'n hawdd o un person i'r llall. Mae fel arfer yn salwch ysgafn a gall rhywun â rwbela fod â brech ac yn teimlo'n anhwylus am tua wythnos.

“Yn sgil llwyddiant y rhaglen imiwneiddio MMR mewn plant cyn ysgol, mae rwbela yn brin yng Nghymru ac ni ydym wedi cael unrhyw achosion yn y degawd diwethaf.

"Fodd bynnag, gall dal rwbela yn ystod 12 wythnos gyntaf beichiogrwydd achosi niwed difrifol i ymennydd, calon, llygaid a chlyw babi. Syndrom rwbela cynhenid yw'r enw ar hyn.”

Dywedodd Sharon Hillier, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgrinio ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Am na ellir rhoi'r MMR pan fyddwch yn feichiog rydym yn annog merched sy'n ystyried cael babi i wirio eu bod wedi cael eu dau ddos o'r brechlyn MMR cyn beichiogi.

“Mae'n bwysig iawn bod unrhyw ferch feichiog sy'n datblygu brech neu sy'n dod i gysylltiad â rhywun â brech, yn ffonio ei bydwraig neu ei meddyg teulu i gael cyngor.

“Dylai merched osgoi beichiogi am fis ar ôl cael y brechlyn MMR, felly mae angen dull dibynadwy o atal cenhedlu arnynt.”

Mae cyngor a chanllawiau ar gael hefyd yn llyfryn Sgrinio Cyn Geni Cymru ‘heintiau a beichiogrwydd- diogelu eich babi' ac yn y daflen ‘Beichiogrwydd – sut i'ch helpu i ddiogelu chi a'ch babi’ sydd ar gael i'w lawrlwytho o: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/doityourself/vaccinations/Leaflets/

Rhannu |