Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2016

Archesgob yn talu teyrnged i “esgob anfoddog”

Mae Archesgob Cymru wedi talu teyrnged i Esgob Tyddewi sy’n ymddeol yr wythnos nesaf wedi wyth mlynedd yn y swydd.

Disgrifiodd Dr Barry Morgan yr Esgob Wyn Evans fel “Deon hanfodol ac esgob braidd yn anfoddog”, un y mae ei weinidogaeth wedi ei gwerthfawrogi’n fawr.

Wedi ei ethol yn 2008, yr Esgob Wyn oedd 128fed Esgob Tyddewi.

Mae’n ymddeol ar 4 Hydref  ar ei ben-blwydd yn 70 oed, 45 mlynedd ar ôl cael ei ordeinio.

Am y tair blynedd diwethaf mae wedi bod ar bererindod, Yn Ôl Troed Dewi Sant, gan ymweld â phob un o’r 330 o eglwysi yn yr esgobaeth.

Roedd yr camau olaf i’r Eglwys Gadeiriol lle bu’n gwasanaethu fel Deon am 14 blynedd, cyfnod lle bu’n goruchwylio gwaith adfer sylweddol ar yr eglwys, gan gynnwys ailadeiladu’r clawstrau, a gafodd glod uchel.

Dywedodd yr Archesgob fod gan yr Esgob Wyn wybodaeth ddihafal o hanes yr Eglwys ym mhob oes ac o hanes Cymru’n arbennig.

Dywedodd: “Dechreuodd Wyn ei weinidogaeth fel curad yng Nghadeirlan Tyddewi a dychwelodd yno’n ddiweddarach fel ei Deon.

"Mae’r gwaith adeiladu a arweiniodd yno, yn enwedig y clawstrau, yn gofeb i’r hyn y gellir ei gyflawni mewn cadeirlan i’w gwneud yn agored a hygyrch.

"Roedd yn Ddeon hanfodol ac yn esgob braidd yn anfoddog, ond darganfu ei fod wedi mwynhau’r swydd. Cymerodd yr Esgobaeth drosodd ar adeg anodd ond roedd yn ei hadnabod yn drylwyr ac mae ei weinidogaeth fugeiliol wedi ei werthfawrogi’n fawr.

"Rwy’n diolch iddo am ei flynyddoedd lawer o wasanaeth i’r Eglwys ac yn dymuno’n pob bendith iddo ar ei ymddeoliad.”

Cyfaddefodd yr Esgob Wyn nad oedd Mainc yr Esgobion yn rhywle ble’r oedd wedi rhoi ei fryd ar eistedd.

“Mewn 45 mlynedd o weinidogaeth roeddwn i  bob amser wedi canolbwyntio ar geisio peidio mynd yn Esgob,” meddai.

“Roeddwn i’n hapus fel Deon a phan adewais y Gadeirlan roedd rhai pethau roeddwn i’n dal eisiau eu gwneud. Ond dan yr amgylchiadau roeddwn i’n teimlo na allwn ddweud na.”

Roedd yr amgylchiadau’n anodd wedi ymddiswyddiad dadleuol ei ragflaenydd fel esgob, Carl Cooper.

“Y brif her oedd cadw’r esgobaeth gyda’i gilydd; ei chadw’n sefydlog, yn glir ei chyfeiriad.”

Bu’n gyfrifol hefyd am sicrhau newidiadau strwythurol i’r esgobaeth mwn strategaeth o’r enw Tyfu Gobaith a ddeilliodd o adolygiad Gweledigaeth 2020 yr Eglwys yng Nghymru.

“Does yna ddim templed ar gyfer esgobion,” meddai.

“Felly nid y rôl sy’n newid - yr amgylchiadau lle  mae’r rôl yn cael ei hymarfer sy’n newid.

"Ar ôl bod yn berson gwlad, mae hyn fel bod yn berson gwlad ar raddfa lawer mwy.”

Cafodd yr Esgob Wyn ei fagu yn Aberystwyth, yn fab i Ficer Aberystwyth Efion Evans.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth, cyn mynd i astudio archaeoleg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd.

Hyfforddodd ar gyfer yr offeiriadaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, 1968-71 ac mae wedi gwasanaethu ei weinidogaeth i gyd yn Esgobaeth Tyddewi.

Ar ôl cael ei ordeinio’n offeiriad yn 1972, gwasanaethodd yr Esgob Wyn fel canon iau yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi rhwng 1972-75.

Ar ôl cyfnod o ymchwil ym Mhrifysgol Rhydychen dychwelodd i Sir Benfro, gan wasanaethu fel Rheithor Llanfallteg gyda Chlunderwen a Henllan Amgoed gyda Llangan rhwng 1977-82. Roedd yn Warden Ordinandiaid yr Esgobaeth o 1978-83, yn gaplan Coleg y Drindod Caerfyrddin o 1982-90 ac yn Gyfarwyddwr Addysg Esgobol rhwng 1982-1992.

Fe’i gwnaed yn ganon anrhydeddus Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1988 a gwasanaethodd fel canon o 1990 i 1994.

Rhwng 1990-94 roedd yn Ddeon Capel, Coleg y Drindod Caerfyrddin ac yn bennaeth yr adran astudiaethau crefyddol 1991-94.

Cafodd ei wneud yn Ddeon a Phresentor  Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1994 yn ogystal â Ficer Tyddewi. Yn 2001 fe ehangwyd y plwyf i Fywoliaeth Reithor a’i ailenwi’n Pebidiog, lle bu’n gwasanaethau fel rheithor.

Yn hanesydd brwd, mae’r Esgob Wyn yn gymrawd anrhydeddus Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, ac yn arbenigwr blaenllaw ar fywydau’r seintiau Cymreig cynnar a Chadeirlan Tyddewi. .

Mae’n briod â Diane, crochenydd proffesiynol. 

Rhannu |