Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2016

Plaid Cymru yn rhybuddio am berygl dwbl Brexit ar ddileu’r diciâu mewn gwartheg

Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai Brexit olygu ergyd ddwbl i’r diwydiannau cig eidion a llaeth yng Nghymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol y blaid dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Simon Thomas, y gallai effaith gyfun colli cyllid tuag at y cynllun i ddileu’r diciâu mewn gwartheg, a dim gwarant y bydd cig eidion Prydeinig yn cydymffurfio â safonau’r UE fod yn drychinebus i’r sectorau llaeth a chig eidion.

Dywedodd Simon Thomas fod 60% o’r arian ar hyn o bryd ar gyfer y rhaglen i ddileu’r diciâu mewn gwartheg yn dod o’r UE, ac y byddid yn colli’r ffrwd gyllid bwysig hon pan na fydd y DG bellach yn aelod.

Dywedodd fod cynllun Cymru i ddileu’r diciâu mewn gwartheg ar hyn o bryd wedi ei seilio ar reoliadau’r UE ac y mae wedi ei gymeradwyo gan yr UE.

Does dim gwarant, wedi i’r DG dynnu allan o’r UE, y bydd y safon Cymreig yn dal i gael ei gydnabod, ac y gallai hyn niweidio gwerthiant i Ewrop.

Dywedodd Simon Thomas: “Mae’r llywodraeth Lafur wedi methu â mynd i’r afael â phroblem y diciâu yng Nghymru.

"Er bod rhaglen o ddileu’r diciâu mewn gwartheg ar gael, parhau yn uchel wnaeth enghreifftiau o wartheg wedi eu heintio â’r diciâu yn y gorllewin, ac y maent yn cynyddu mewn ardaloedd newydd yn Sir Gaerfyrddin.

“Ar hyn o bryd, mae 60% o gost ein cynllun i ddileu’r diciâu mewn gwartheg yn cael ei dalu gan yr UE.

"Daw’r ffrwd gyllid hon i ben pan fydd Prydain yn gadael yr UE, felly gallai hyn greu problemau difrifol.

“Mae Cymru ar hyn o bryd yn rhan o’r Farchnad Sengl, ac y mae ein cynllun i ddileu’r diciâu mewn gwartheg yn seiliedig ar reoliadau’r UE ac wedi ei gymeradwyo gan yr  UE.

"Fodd bynnag, mae perygl y bydd Brexit yn gwneud drwg i’n henw da, a gallai hyn niweidio gwerthiant.

"Os bydd cyfraddau’r diciâu mewn gwartheg yn codi, gallem wynebu sefyllfa lle mae gwledydd yr UE yn gwrthod mewnforio cig eidion o Brydain, fel a ddigwyddodd yn ystod yr argyfwng BSE.

“Gall Brexit olygu ergyd ddeublyg i’r sector cig eidion a llaeth.

"Mae haint y diciâu yn gall difetha ffermydd a bywoliaeth, felly mae’n bwysig i ni gael cynllun effeithiol sy’n lleihau haint.

"Mae Llafur wedi bod yn aneffeithiol hyd yma, ond mae angen i’r llywodraeth  weithredu er lles y diwydiant.” 

Rhannu |