Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Medi 2016

Aelodau'r cyhoedd i ddewis testun ymchwiliad nesaf un o bwyllgorau'r Cynulliad

Mae gan bobl yng Nghymru gyfle i ddewis testun ymchwiliad pwysig nesaf un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ystod yr haf, bu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn casglu syniadau gan aelodau'r cyhoedd a sefydliadau. Erbyn hyn, mae'r Pwyllgor wedi llunio rhestr fer o opsiynau a fydd yn destun pleidlais gyhoeddus.

Dyma'r opsiynau:

  • Cryfhau cyfranogiad dinasyddion a mynediad at wleidyddiaeth yng Nghymru;
  • Cadw treftadaeth ddiwylliannol leol yng Nghymru;
  • Y modd y caiff hanes ei ddysgu yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru; 
  • Datblygu a hyrwyddo 'brand Cymru';
  •  Adolygiad Llywodraeth Cymru o amgueddfeydd yng Nghymru;  
  • Cefnogi a datblygu mathau unigryw a thraddodiadol o gelfyddyd yng Nghymru;
  • Mynediad at y celfyddydau ar lawr gwlad, a'r drefn gyllido;
  • Cefnogi'r rhai sy'n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol a chymhwysol yng Nghymru, a sicrhau eu bod yn datblygu;
  •  Datblygu'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru;
  • Cyllido addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati; a
  • Chymorth dwyieithog ar gyfer pobl fyddar a thrwm eu clyw a phobl sydd ag anawsterau cyfathrebu.

Dywedodd Bethan Jenkins AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Cafodd y Cynulliad hwn ei greu i symud y broses o wneud penderfyniadau yn nes at y bobl y mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio arnynt. Dyma'r cam nesaf ar y daith honno.

"Dylai fod gan bobl yng Nghymru lais cryfach o ran y modd y mae'r Cynulliad a'i bwyllgorau yn gwneud eu gwaith.

"Rydym eisoes wedi cael awgrymiadau ar gyfer ystod eang o bynciau. Bydd y Pwyllgor yn gweithredu'n gynnar ar ddau ohonynt—yn benodol, y rhai sy'n ymwneud â'r cyfryngau yng Nghymru a strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith Gymraeg.

"Fodd bynnag, rydym am i bobl edrych ar y rhestr a dweud wrthym ba syniadau sy'n bwysig yn eu tyb hwy.

"Ni fyddwn yn anghofio am y syniadau eraill; byddwn yn ceisio eu cynnwys ar ryw adeg yn y dyfodol. Bwriad yr arolwg barn hwn yw rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd ddweud wrthym beth sy'n bwysig iddynt—yr hyn y dylem roi blaenoriaeth iddo."

Gwnaeth Ms Jenkins gyhoeddiad ffurfiol ynghylch y bleidlais mewn datganiad i'r Cynulliad heddiw.

Bydd y bleidlais yn agor ddydd Llun 3 Hydref, ac yn cau ar 14 Tachwedd. Bydd y manylion ynghylch sut y gall pobl bleidleisio dros eu dewis bwnc yn cael eu rhannu ar gyfrif Twitter y Pwyllgor @SeneddDGCh a gwefan y Pwyllgor: http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgCommitteeDetails.aspx?ID=445

Rhannu |