Mwy o Newyddion
Plac glas yn cael ei ddadorchuddio i Saunders Lewis
Y pymthegfed plac glas i’w ddadorchuddio ar dŷ yn Abertawe yw un i goffau Saunders Lewis, dde. Bu’n byw am rai blynyddoedd gyda’i dad yn ardal Stryd Hanover yn yr Uplands rhwng 1916 ac 1924.
Er mai yn Lerpwl y’i ganed bu’n ddarlithydd yng Ngoleg Prifysgol Abertawe ac wedi hynny y daeth i amlygrwydd drwy ei ran yn llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth 80 mlynedd yn ôl, trwy ei ddramau a’i ddarlith radio. Bu farw yn 1985.
Y Cyng David Hopkins, Arglwydd Faer Abertawe, a ddadorchuddiodd y plac.
Meddai’r Cyng Hopkins: “Fel person dadleuol yn ei oes, roedd Saunders Lewis yn un o nifer o bobl a oedd wedi gwneud eu cenedligrwydd yn ganolbwynt i’w gwleidyddiaeth yn y 1920au.
“Chwaraeodd ran hanfodol yn y mudiad i atal dirywiad yr iaith Gymraeg ac adfer balchder yn y diwylliant Cymraeg.
“Hwn yw’r pymthegfed plac glas rydym wedi ei ddadorchuddio o fewn y pedair blynedd diwethaf wrth i ni barhau i ddathlu treftadaeth ein dinas drwy anrhydeddu pobl a lleoedd sydd wedi rhoi Abertawe ar y map dros y blynyddoedd.”
Mae’r Gymraeg yn gyntaf ar y plac hwn o’i gymharu â’r plac glas a ddadorchuddiwyd i’r Dr John Davies yn Nhreorci. Cymdeithas Ddinesig y Rhondda sydd wedi ei osod. Arno mae’n dweud ‘Hanesydd, Awdur a Darlledwr’ o dan y Saesneg.
Roedd wedi ei eni yn 59 Stryd Dumfries yn 1938 cyn i’r teulu symud i Bwlchllan, Ceredigion. Nid oedd wedi anghofio ei fro enedigol ac yn mynd yn ôl yno’n aml pan oedd yn byw yng Nghaerdydd. Ystyrid ef yn un o brif haneswyr Cymru a bu farw yn 76 oed y llynedd.