Mwy o Newyddion
Cymuned yng Ngwynedd ar ei cholled oherwydd isadeiledd ddigidol annibynadwy
Mae Aelod Seneddol Arfon ac Arweinydd Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams yn galw ar Ysgrifennydd Cabinet Economi a Seilwaith Llywodraeth Cymru, Ken Skates i gyfarfod â busnesau gwledig a thrigolion sydd o’r farn fod diffyg argaeledd band eang dibynadwy yn niweidio potensial economaidd gogledd Cymru.
Cyfarfu Hywel Williams AS â thrigolion pentref Crymlyn ger Abergwyngregyn, sy’n flin am y diffyg parhaus o gysylltiad band eang dibynadwy sy’n cael ei waethygu gan isadeiledd sydd wedi ei ddyddio ac sy’n methu ymdopi â’r galw cynyddol am wasanaeth.
Mae oddeutu ugain eiddo, yn rhan fwyaf ohonynt yn gweithredu fel busnesau, yn dioddef gwasanaeth band eang truenus.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru, sydd wedi hir-ymgyrchu am well darpariaeth band eang yn ei etholaeth, fod tan-berfformiad BT Openreach a difaterwch eu gwasanaeth cwsmer yn sgandal.
Mae ffigyrau gan Ofcom yn dangos fod BT wedi gwneud elw o £4 biliwn er 2004 tra bod ffigyrau BT eu hunain yn dangos fod eu pryniant o EE werth oddeutu £12.5 biliwn; mwy na mae’r cwmni wedi buddsoddi yn y rhwydwaith dros y deng mlynedd ddiwethaf.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Mae uwchraddio seilwaith ddigidol mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw’r economi wledig o dan anfantais bellach.
"Mae'r sefyllfa bresennol yn rhoi busnesau o dan anfantais ac yn gwneud i ddarpar gyflogwyr feddwl ddwywaith cyn buddsoddi mewn ardaloedd o'r fath.
“Mae'r cynnydd araf i gyflwyno band eang cyflym yn gwaethygu.
"Mae busnesau gwledig yn wynebu dyfodol anodd iawn gyda seilwaith sydd wedi ei ddyddio yn cael ei gymhlethu gan amharodrwydd BT i fynd i'r afael â'r broblem gydag unrhyw frys.
“Mae'n hollbwysig fod y Llywodraeth a BT yn cynnal momentwm ac yn bwrw ymlaen fel bod y bwlch mewn argaeledd band eang rhwng Gwynedd a chyfartaledd y DU yn cael ei gulhau yn sylweddol.
“Ar yr un pryd mae pobl sy'n ei chael hi'n amhosibl i lawrlwytho dogfennau pwysig fel papurau llywodraeth yn cael eu argyhoeddi fod band eang cyflym mor wych, mor bwysig ac yn flaenoriaeth o'r fath!
“Os yw’r llywodraeth yn mynnu bod pobl yn defnyddio band eang i lenwi ffurflenni, llawrlwytho gwaith a chymryd rhan lawn mewn bywyd, yna mae ganddynt hefyd ddyletswydd i ddarparu y modd i wneud hynny.
"Yn fy marn i mae llywodraeth y DU a llywodraeth Cymru wedi bod yn esgeulus iawn yn eu dyletswydd, gan roi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol tu hwnt i gyrraedd pobl mewn ardaloedd fel Crymlyn.
“Ac i rwbio halen yn y briw, mae cysylltiad ffibr gogledd Cymru yn rhedeg ychydig lathenni i ffwrdd, yn llythrennol ar garreg eu drws, yn cael ei dalu gydag arian cyhoeddus, gyda'u trethi, ond tu hwnt i'w cyrraedd.
“Rydym yn gwahodd Gweinidog Llywodraeth Cymru i gyfarfod â mi a busnesau a thrigolion lleol yn Crymlyn er mwyn i’r broblem dderbyn sylw ar lefel Llywodraethol.”
Dywedodd Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian AC: “Mae cymuned gyfan gan gynnwys ffermydd a dwsin neu fwy o fusnesau bach yn cael eu hamddifadu o fand eang dibynadwy; mae’r sefyllfa yn annerbyniol yn y dyddiau hyn o ddibyniaeth gynyddol ar y rhyngrwyd ar gyfer defnydd economaidd a chymdeithasol.
“Byddaf yn gofyn i Lywodraeth Lafur Cymru faint o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario ar wella seilwaith yng nghefn gwlad gogledd Cymru o'i gymharu â rhannau eraill o'n gwlad ac yn gofyn am gyfarfod gyda phennaeth BT yng Nghymru i drafod y problemau penodol yng nghymuned Crymlyn.”
Ychwanegodd perchennog busnes lleol, Steve Gilligan: “Fel sy'n wir am lawer o gymunedau gwledig yng Nghymru, mae trigolion Crymlyn wedi dioddef lefelau annerbyniol o wasanaeth gan BT, darparwr sydd â monopoli ers dros ddegawd.
“Mae eu amharodrwydd i ddarparu cysylltiadau dibynadwy priodol at y rhyngrwyd yn golygu ein bod yn cael ein cloi allan o'r farchnad darpariaeth band eang.
“Mae symiau mawr o arian cyhoeddus wedi cael ei drosglwyddo i BT i gyflwyno band eang cyflym iawn ledled y DU ond pan mae uwchraddio technolegol yn cymryd lle, cymunedau gwledig sy'n cael eu gadael ar ôl bob tro.
“Rydym yn credu bod y sefyllfa yma yn annerbyniol gan ei bod yn cael ein hatal rhag chwarae rhan lawn ym mywyd economaidd y wlad.”