Mwy o Newyddion
Rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion Adolygiad Diamond fel man cychwyn cadarn
Dylai argymhellion Adolygiad Diamond gael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru fel sylfaen gadarn i ddatblygu sgiliau a thyfu economi Cymru, meddai Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Dywedodd Llyr Gruffydd y byddai’r argymhellion yn cynnig model mwy cynaliadwy o gyllid myfyrwyr, a dywedodd fod parodrwydd y llywodraeth i dderbyn y newid arfaethedig yn gyfaddefiad nad yw’r setliad presennol yn gynaliadwy.
Fodd bynnag, rhybuddiodd y llywodraeth i beidio â dewis a dethol o’r argymhellion, gan rybuddio y dylid synied amdnaynt fel pecyn cynhwysfawr a diwnïad.
Dywedodd Llyr Gruffydd hefyd ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd o gymell myfyrwyr i ddychwelyd i Gymru i weithio ar ôl graddio neu fe fydd yr holl system o gefnogi myfyrwyr mewn perygl o fethu â gwasanaethu anghenion economi Cymru.
Meddai: “Rhoddodd Plaid Cymru groeso gofalus i adroddiad Diamond, a dylai Llywodraeth Cymru dderbyn ei argymhellion fel man cychwyn cadarn i ddatblygu sgiliau a chryfhau economi Cymru.
“Nid yw model presennol y llywodraeth yn gynaliadwy, a dyna pam ei bod yn bwysig derbyn argymhellion yr Athro Diamond. Pecyn cyflawn yw hwn – ni fyddai’n briodol i’r llywodraeth ddewis a dethol eu hoff rai.
“Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad Diamond o ran rhoi cymhellion i fyfyrwyr aros neu ddychwelyd i Gymru wedi graddio.
"Yr oedd hyn yn rhan ganolog o bolisi Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf, ac oni fydd hyn yn digwydd, mae perygl i ni fod mewn sefyllfa lle bydd y system o gefnogi myfyrwyr yn methu â gwasanaethu anghenion economi Cymru yn iawn.
“Mae prifysgolion, colegau a phrentisiaethau oll yn llwybrau yr un mor werthfawr tuag at waith.
"Yr her nawr i Lywodraeth Cymru yw nid yn unig cau’r blwch cyllido gyda Lloegr, ond sicrhau hefyd fod cyllid i addysg ôl-16 yn adlewyrchu cydraddoldeb parch rhwng astudiaethau academaidd a galwedigaethol.”