Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Medi 2016

Llysgennad yr Unol Daleithiau'n ymweld â Phrifysgol Bangor

Mewn achlysur arbennig heddiw yng nghanolfan Pontio cafodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor ac ysgolion lleol gyfle i glywed Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig, Matthew Barzun, yn siarad am y 'berthynas arbennig' rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU.

Trafododd y Llysgennad Barzun y berthynas rhwng y DU a'r Unol Daleithiau - yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol - ac atebodd gwestiynau gan y gynulleidfa am y berthynas a'r sialensiau sy'n wynebu'r ddwy wlad, yn unigol ac ar y cyd.

Manteisiodd y Llysgennad - a oedd wedi dysgu ychydig o Gymraeg drwy ymweliad blaenorol â Chymru - ar y cyfle i ddweud ychydig frawddegau yn Gymraeg gan ddweud pa mor falch yr oedd o gael ymweld â Bangor a chryfhau ymhellach y cysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru.

Gan dynnu sylw at enghreifftiau o waith ar y cyd rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU ym maes diplomyddiaeth ryngwladol, a'i brofiadau ef ei hun ers ei benodi i'r swydd dair blynedd yn ôl, dadleuodd y Llysgennad bod y berthynas arbennig yn parhau i fod nid yn unig yn berthnasol ond hefyd yn angenrheidiol os yw'r ddwy wlad yn mynd i ddatrys sialensiau mawr y byd yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.

Meddai'r Llysgennad Barzun: "Yn wyneb tueddiadau byd-eang a newidiadau gwleidyddol annisgwyl ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd, mae'n hawdd i ni fynd i feddwl ein bod yn ddiymadferth o ran dylanwadu ar gwrs ein bywydau.

"Eto'i gyd, mewn democratiaeth ynom ni ein hunain mae'r grym i newid pethau, fel mae wedi bod erioed.

"Mae pobl yr Unol Daleithiau a Phrydain wedi dangos dros genedlaethau y gallwn godi i wynebu ein sialensiau mwyaf un drwy wrando ar ein gilydd a chydweithio mewn partneriaeth."

Meddai Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes: "Edrychodd y Llysgennad Barzun yn ôl dros y saith degawd diwethaf i ddangos sut y gall unigolion, cymunedau a chenhedloedd adeiladu pontydd - thema neilltuol berthnasol o ystyried mai yn adeilad Pontio y cynhaliwyd y cyfarfod."

Wrth gynnal yr achlysur hwn cofir mai 70 mlynedd yn ôl i eleni y bathodd Winston Churchill y term 'perthynas arbennig' i ddisgrifio'r cysylltiadau gwleidyddol, diplomataidd, diwylliannol, economaidd, milwrol a hanesyddol eithriadol agos sy'n bodoli rhwng y DU a'r Unol Daleithiau. 

Llun: Llysgennad yr Unol Daleithiau i'r Deyrnas Unedig, Matthew Barzun

Rhannu |