Mwy o Newyddion
Y pum mlynedd nesaf yn hanfodol
Mae WWF Cymru yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gadw at ei haddewid ‘Un Blaned’ o wneud Cymru’n genedl gynaliadwy, yn wyneb y newid yn yr hinsawdd a chostau cynyddol ynni.
Meddai Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru:“Mae Llywodraeth Cymru’n wynebu heriau anferth yn y pum mlynedd nesaf, ond mae ganddi gyfle euraid hefyd. Eisoes mae wedi pennu targedau ac uchelgeisiau beiddgar i dorri allyriadau, cynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy a lleihau’n ddirfawr yr adnoddau mae Cymru’n eu defnyddio i’n cyfran deg. Felly mae’n rhaid i ni wneud cynnydd sylweddol ar hyn erbyn 2020 ac yn nhymor y Cynulliad hwn bydd yn hanfodol i lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n gyfan gyflawni hyn. Yn benodol, mae angen i ni helpu diwydiannau Cymru i bontio i ddyfodol carbon isel, cynaliadwy.”
Yn wyneb costau byw cynyddol, mae’r angen i’r Llywodraeth newydd sicrhau cenedl fwy cynaliadwy yr un mor daer i deuluoedd yng Nghymru ag ydyw i bobl a bywyd gwyllt o gwmpas y byd, medd yr elusen.
Cyhoeddodd y llywodraeth ddiwethaf ei gweledigaeth ‘Un Blaned’ o Gymru’n defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r ddaear yn unig. Ar hyn o bryd, pe bai pawb yn y byd yn byw fel yr ydyn ni yng Nghymru, bydden ni angen rhyw ddwy blaned a hanner i’n cynnal.
Mae adroddiad, a lansiwyd ddydd Llun, yn dweud bod y pum mlynedd nesaf yn ‘hanfodol’ i’r gweinidogion newydd gyflawni’r nod hwnnw.
Mae’n argymell y dylai’r llywodraeth ei gwneud yn glir o’r brig bod lleihau’r adnoddau mae Cymru’n eu defnyddio a’i hallyriadau carbon yn flaenoriaethau i’r llywodraeth a’r sector cyhoeddus yn gyfan. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ysgogi cyflawni’r nodau ‘Un Blaned’, gan wneud staff yn atebol ac adrodd yn rheolaidd ar effeithiau polisïau a gwariant.
Mae pob plaid yn y Cynulliad wedi ymrwymo i dorri ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr 40% erbyn 2020 ac yn awr mae WWF Cymru yn pwyso ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth newydd, Edwina Hart, i ystyried yr ymrwymiad hwn ac adolygu cynlluniau datblygu economaidd i sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar gynorthwyo busnesau Cymru i gyflawni economi carbon isel.
Ychwanegodd Anne Meikle: “Mae hwn yn gyfnod anodd. Rydyn ni’n defnyddio adnoddau’r ddaear yn gyflymach nag y gallant gael eu hailgyflenwi, sy’n bygwth ein ffordd o fyw yng Nghymru, yn ogystal â phobl a natur o gwmpas y byd. Drwy weithredu yn awr – megis inswleiddio cartrefi, cynhyrchu mwy o'n hynni o ffynonellau adnewyddadwy a lleihau gwastraff – gallwn adeiladu dyfodol lle mae pobl a natur yn ffynnu. Wrth i’r pwysau ar adnoddau gynyddu, rydym hefyd yn wynebu costau cynyddol. Eisoes rydyn ni wedi gweld prisiau’n codi ac mae’n hanfodol i fwyd ac ynni fod yn fforddiadwy i gartrefi Cymru.”
Canfu’r adroddiad fod Llywodraeth Cymru wedi ‘wedi mynd ati mewn ffordd ganmoladwy’ i fynd i’r afael ag ‘olion traed’ ecolegol a charbon Cymru – sy’n mesur faint o adnoddau naturiol rydyn ni’n eu defnyddio a’r effaith mae Cymru’n ei chael ar y newid yn yr hinsawdd.
Mae’n datgelu y cafwyd camau cadarnhaol megis cefnogi bwyd lleol a buddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy, ond nad oedd pob polisi ac adran wedi cydnabod nod ‘Un Blaned’.
Llun: Anne Meikle, Pennaeth WWF Cymru