Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Medi 2016

A ydych yn chwilio am lyfr sydd allan o brint – neu lyfr newydd? Os felly, Ffair Lyfrau Porthaethwy fydd y lle i chi

A YDYCH yn chwilio am lyfr sydd allan o brint – neu lyfr newydd? Am gerdyn post o’ch hen gynefin, neu hyd yn oed hen lestri? Os felly, Ffair Lyfrau Porthaethwy, Ynys Môn, fydd y lle i chi. 

Cynhelir y Ffair ar ran Cymdeithas Bob Owen cyhoeddwyr Y Casglwr.

Mae yn ei seithfed flwyddyn a, chyda hanner cant o fyrddau, yn siŵr o fod y ffair lyfrau fwyaf yng Nghymru.

Daw gwerthwyr a phrynwyr o mor bell â Chaerdydd a Lerpwl. 

Am 1pm bydd Carl Clowes yn ymuno â stondin siop Awen Menai i lofnodi copïau o’i hunangofiant Super Furries, Prins Seeiso, Miss Siberia a Fi.

Bydd croeso i unrhyw un daro heibio’r stondin am sgwrs.

Bydd Simon Simcox yno hefyd, trwy’r dydd, gyda chopïau o’i lyfr Hidden Houses of Gwynedd 1100-1800 yn ogystal â sawl cyhoeddwr arall.

Bydd rhwymwr llyfrau wrth ei waith ac yn barod i drafod y grefft.

Bydd y ffair yn Ysgol David Hughes o ddeg y bore hyd bedwar o’r gloch, Sadwrn, 8 Hydref.

Punt yw pris mynediad a bydd ‘paned ar gael a lle i’w sipian wrth edmygu’ch bargeinion.

Rhannu |