Mwy o Newyddion
Gwrth-ddywediadau Brexit yn datgelu’r llanast wrth graidd pleidiau San Steffan yn ôl Steffan Lewis AC
Mae Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Faterion Allanol, Steffan Lewis AC, heddiw wedi beirniadu’r ‘llanast wrth graidd pleidiau San Steffan’ dros fater y DG yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Tynnodd Steffan Lewis sylw at y modd y mae’r Prif Weinidog bellach wedi ceryddu ei thri Gweinidog Brexit– yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson, yr ysgrifennydd Masnach Liam Fox, a’r ysgrifennydd Brexit David Davis – am wrth-ddweud safbwynt swyddogol llywodraeth y DG.
Tynnodd sylw hefyd at droeon pedol Llywodraeth Lafur Cymru ar fater feto Cymreig ar delerau terfynol bargen Brexit y DG, a’u safbwynt ar aelodaeth o’r farchnad sengl.
Meddai Steffan Lewis AC Plaid Cymru: “Mae’r gwrthddywediadau dros Brexit a gawsom gan Lafur a’r Torïaid dros yr wythnosau diwethaf yn datgelu’r llanast wrth graidd pleidiau San Steffan.
“Mae’r Prif Weinidog Theresa May yn awr wedi ceryddu yn gyhoeddus ei thri Gweinidog Brexit – Boris Johnson, Liam Fox a David Davis – am wrth-ddweud safbwynt swyddogol y llywodraeth ar faterion megis aelodaeth o’r farchnad sengl, a chychwyn erthygl 50.
“Ar ben arall yr M4, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwneud sawl tro pedol dros rai dyddiau yn unig, gan amlinellu amrywiol safbwyntiau ynghylch a ddylai Cymru arfer feto ar delerau terfynol Brexit ai peidio, ac ar aelodaeth o’r farchnad sengl. Nid ydym yn glir eto ynghylch eu safbwyntiau.
“Mae Cymru’n cael ei methu gan y pleidiau Llundeinig sy’n treulio’u holl amser yn cweryla ymysg ei gilydd yn hytrach na chanolbwyntio ar amddiffyn buddiannau’r genedl.
“O’r cychwyn cyntaf, bu Plaid Cymru yn glir mai diogelu’r economi ddylai fod yn brif flaenoriaeth mewn unrhyw drafodaethau.
"Dywedasom yn gyson y dylai Cymru a’r DG yn ehangach gadw aelodaeth o’r farchnad sengl.
“Pleidleisio i adael yr undeb wleidyddol Ewropeaidd a wnaeth pobl, nid yr undeb economaidd Ewropeaidd sydd yn hanfodol i’n rhagolygon economaidd at y dyfodol, ac y mae Plaid Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i gryfhau a sicrhau cysylltiadau masnach a swyddi yng Nghymru.”
Llun: Steffan Lewis