Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Medi 2016

Taith awdur Llŷr Titus yn torri tir newydd

BYDD Taith Awdur nesaf ymgyrch boblogaidd @LlyfrDaFabBooks yn torri tir newydd.

Am y tro cyntaf erioed, bydd y cynllun, a weinyddir gan Gyngor Llyfrau Cymru, yn mentro i faes ysgolion uwchradd yn ne-ddwyrain Cymru, pan fydd cyfle i ddisgyblion gyfarfod Llŷr Titus, awdur un o gyfrolau buddugol Gwobrau Tir na n-Og 2016.

Gwalia gan Llŷr Titus a ddaeth i’r brig yng nghategori uwchradd Gwobrau Tir na n-Og, a bydd Taith Awdur tymor yr hydref eleni yn hyrwyddo’r gyfrol fuddugol.

Yn ôl beirniaid y gystadleuaeth: “Teimlai’r panel nad oedd ’na ddim byd tebyg i hwn yn y Gymraeg, a’i bod yn stori ffres, newydd, amserol, wedi’i sgwennu’n dda ac yn cynnal diddordeb y darllenydd o bennod i bennod.”

Bydd Llŷr Titus yn cyflwyno’r nofel, yn ei gosod yn ei chyd-destun ac yn sôn am ei waith fel awdur, gan ymweld â chwech o ysgolion rhwng 4 a 6 Hydref.

“Bydd hwn yn gyfle gwych i ysgogi’r disgyblion i fwynhau darllen, ac i annog pob un ohonynt i roi cynnig ar ysgrifennu creadigol,” meddai Sharon Owen, cydlynydd Taith Awdur @LlyfrDaFabBooks.

Bydd y daith eleni’n ymweld ag ysgolion Glantaf, Plas Mawr, Bro Edern, Garth Olwg, Nant Caerau a’r Berllan Deg yn y de-ddwyrain.

Y gobaith yw y bydd y daith hon yn annog y disgyblion i gael blas ar ddarllen, ac i brynu llyfrau Cymraeg.

Rhannu |