Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Medi 2016

Argymell y llywodraeth i gyflwyno grant costau byw i fyfyrwyr

MAE adolygiad gan Syr Ian Diamond a ryddhawyd heddiw yn galw ar y llywodraeth i gyflwyno grant i helpu gyda chostau byw myfyrwyr.

I gymryd lle'r grant presennol sy'n talu am gyfran o ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru, mae'r adroddiad  yn argymell cyflwyno grant sylfaenol o £1,000 y flwyddyn i bob myfyriwr gyda chyllid ychwanegol ar gael  ar sail prawf modd.

Mae Prifysgolion Cymru wedi croesawu cyhoeddi Adolygiad Diamond ar ariannu addysg uwch a threfniadau cyllid myfyrwyr i Gymru, a’i ymrwymiad i ddod o hyd i ateb cynaliadwy ar gyfer myfyrwyr a phrifysgolion.

Meddai llefarydd: "Hoffem ddiolch i Syr Ian ac aelodau’r panel am eu hymrwymiad i gyflawni hyn dros y ddwy flynedd diwethaf.

"Cred Prifysgolion Cymru y bydd cynnig grantiau cynhaliaeth trwy brawf modd i fyfyrwyr o Gymru yn rhoi’r cyfle i lawer mwy o bobl dalentog drawsnewid eu gobeithion bywyd trwy fynd i brifysgol.

"Mae digon o dystiolaeth yn dangos fod angen cefnogaeth ariannol ar fyfyrwyr wrth astudio ac rydym felly’n falch i weld yr argymhelliad y dylid darparu’r gefnogaeth honno.

"Yn ogystal â’r gefnogaeth hon i fyfyrwyr, ac o gofio’r heriau sydd o’n blaenau, mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn cadw ein system brifysgol safon byd yng Nghymru.

"Mae cyllid prifysgolion ar gyfer blaenoriaethau allweddol – ymchwil o ansawdd, darpariaeth ran-amser a phynciau drud fel meddygaeth – yn hollbwysig os yw ein prifysgolion yn mynd i barhau i fod yn rym cadarnhaol er lles pobl ac economi Cymru.  

"Credwn fod y llywodraeth flaenorol yn iawn i droi at banel annibynnol i wneud argymhellion ar gyfer llwyddiant a chynaliadwyedd hirdymor y sector.

"Wrth inni edrych i’r dyfodol, prifysgolion, a’r gyfran gynyddol o bobl sy’n astudio ynddynt, fydd gyrwyr allweddol y broses o greu trawsnewidiad economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

"Gobeithiwn, yn sgil y gefnogaeth drawsbleidiol i’r Adolygiad, y gallwn adeiladu consensws ynghylch gwerth prifysgolion a’u myfyrwyr i Gymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o weithredu’r argymhellion yn fuan."

 

Rhannu |