Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Medi 2016

Dweud eich dweud - gwella cysylltiadau Glannau a Chanol Dref Caernarfon

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus clywed barn trigolion a busnesau Caernafon ar opsiynau posib gwerth hyd at £400,000 i wella cysylltiadau ar droed a beicio rhwng ardal Glannau Caernarfon a chanol y dref.

Bydd dau sesiwn galw heibio yn cael eu cynnal yng Nghapel y Maes yn y dref ar 5 a 6 Hydref o 10am hyd 8pm lle bydd cyfle i bobl alw heibio i weld syniadau cychwynnol i wella cysylltiadau traffig.

Mae’r gwelliannau wedi eu cyllido o gronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.

Mae'r syniadau posib cychwynnol i wella cysylltiadau rhwng canol y dref a Glannau Caernarfon yn cynnwys:

  • Gwella cyflwr Ffordd Santes Helen;
  • Gwelliannau i gylchdro twnel Caernarfon;
  • Datblygu Allt y Castell i wella mynediad i gerddwyr rhwng y Maes ac ardal y Cei Llechi;
  • Gwella’r Rhwydwaith Llwybr Beicio Cenedlaethol.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faterion trafnidiaeth: “Wrth weithio gyda’n partneriaid, rydym yn awyddus i sicrhau fod Caernarfon yn adeiladu ar ei enw da fel cyrchfan bywiog ar gyfer y gymuned leol ac ymwelwyr i’r ardal.

"Rydan ni’n falch felly ein bod wedi sicrhau £400,000 o fuddsoddiad i wella cysylltiadau rhwng canol tref ac ardal glannau Caernarfon.

“Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i alw draw yn y sesiynau cyhoeddus fydd yn cael eu cynnal a chymryd y cyfle i weld y cynlluniau cychwynnol sydd wedi eu datblygu.”

Meddai’r Cynghorydd Mandy Williams-Davies, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae ardal glannau Caernarfon wedi ei adnabod fel lleoliad sydd a’r potensial i wneud cyfraniad sylweddol i’r gwaith o adfywio’r dref a’r economi leol yn ehangach.

"Ein nod trwy’r cynllun penodol yma ydi cyflwyno gwelliannau ymarferol fydd yn cryfhau’r cyswllt rhwng yr ardal yma a chanol y dref.”

Bydd sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal yng Nghapel y Maes yng Nghaernarfon ar 5 a 6 Hydref o 10am hyd 8pm lle bydd cyfle i bobl alw heibio i weld syniadau cychwynnol i wella cysylltiadau traffig rhwng ardal Glannau Caernarfon a chanol y dref.

 

LLUN: Delwedd cychwynnol yn dangos un opsiwn i wella cysylltiadau rhwng ardal Glannau Caernarfon a chanol y dref

Rhannu |